![]()
2:00 pm-3:00 pm | 25/03/2026
Ymunwch a Dr James January-McCann, Swyddog Enwau Lleoedd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, wrth iddo drafod hanes a datblygiad Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru, adnodd arloesol sy’n cynnwys cannoedd o filoedd o enwau lleoedd unigol.
Defnyddir y Rhestr nid yn unig fel adnodd hynafiaethol a hanesyddol yn ei dermau ei hun, ond hefyd fel y sail yr enwir strydoedd a datblygiadau newydd ledled Cymru arni. Bydd Dr January-McCann yn son am y ffynonellau amrywiol y mae’r rhestr yn tynnu ei chynnwys oddi wrthynt, gyda ffocws arbennig ar enwau lleoedd lleol.
Yn frodor o Havant, tref fach wrth ymyl Portsmouth, ac yn hanu o deulu Gwyddelig/Cymreig, gorffennodd Dr James January-McCann ei ddoethuriaeth yn 2016. Cafodd ei benodi’n Gymrawd Dysgu yn yr Ieithoedd Celtaidd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth, yn 2015, a’i ddyrchafu’n ddarlithydd y flwyddyn ganlynol, cyn iddo gael ei benodi’n Swyddog Enwau Lleoedd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ym mis Mehefin 2017.
Cyflwynwyd y sgwrs yma trwy’r Gymraeg. Darperir cyfieithu ar y pryd.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
Location
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW

