Medi 2026
Hughesovka: Dinas Ddiwydiannol gyda Gwreiddiau Cymreig
15/09/2026-31/12/2026
All Day
Mae’r arddangosfa hon yn olrhain twf Hughesovka – Stalino yn ddiweddarach a Donetsk heddiw – o safle gwyntog ar baith Wcráin i ddinas ddiwydiannol fawr gydag olion Cymreig parhaol.
Ymwelwch a’r arddangosfa yma: Hughesovka: Dinas Ddiwydiannol gyda Gwreiddiau Cymreig – Archifau Morgannwg
Hyd 2026
130 Years of Roath Park
14/10/2026
2:00 pm-3:00 pm
Archifau Morgannwg, Leckwith, Cardiff.
Ymunwch ag Ann Bell i ddarganfod mwy am hanes Parc y Rhath, sef parc cyhoeddus cyntaf Caerdydd a agorwyd yn swyddogol ym 1894.
Mae Ann Bell yn byw yn y Rhath, yn gyn-lyfrgellydd ac yn hanesydd lleol gyda diddordeb brwd mewn hanes parciau Caerdydd.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Cadwch le AM DDIM yma: https://www.ticketsource.com/glamorgan-archives/t-njdxoxp

