Mae staff bob tro’n fodlon cynnal sesiynau ar ‘sut mae dechrau’ ar gyfer grwpiau sy’n ymweld yma yn yr Archifau. Bydd cynnwys yr ymweliad wedi ei deilwra er mwyn ateb eich gofynion, ond gall gynnwys:
- cyflwyniad i weithdrefnau Archifau Morgannwg
- cyngor ar ddefnyddio ein catalogau i ddarganfod yr hyn rydych yn chwilio amdano
- taith ‘pob ardal’ o’r adeilad, yn cynnwys cadwraeth a gwneud blychau
- gwybodaeth ar sut i drin cofnodion gwreiddiol, a sut i ofalu am unrhyw ddeunydd archif eich hun sydd gennych gartref o bosibl
- arddangos dogfennau sy’n berthnasol i’ch lle neu destun diddordeb
- cyfle i holi cwestiynau a chael cyngor.
Rydym wedi derbyn ymweliadau gan ystod eang o grwpiau yn cynnwys pobl â diddordeb mewn rheilffyrdd, ysgolheigion y cyfnod canol oesol, artistiaid a haneswyr teulu. Felly, os ydych yn swyddog cymdeithas leol, tiwtor dosbarth hanes lleol neu hanes teulu yn ardal Morgannwg, cysylltwch â ni er mwyn archebu taith.