Taith o gwmpas Archifau Morgannwg

Taith o gwmpas

Archifau Morgannwg

Yn Archifau Morgannwg mae bob amser yn bleser gennym groesawu’r cyhoedd i edrych o amgylch ein hadeilad arbennig. Gan nad ydym yn gallu cynnal teithiau ar hyn o bryd, rydym wedi creu taith rithwir i roi cipolwg bach i chi ar yr Archifau y tu ôl i’r llenni.

Y Cyntedd

Dyma lle byddwch yn cael eich cyfarch wrth gyrraedd yr adeilad. Os hwn yw eich ymweliad cyntaf, bydd angen i staff y dderbynfa eich cofrestru cyn i chi allu cael mynediad i’r casgliad.

Mae manylion yr hyn mae ei angen arnoch i gofrestru ar yr ymweliad cyntaf hwnnw i’w gweld yma. Mae rhai cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus yn y cyntedd y mae croeso i chi eu defnyddio. Byddwch yn gallu defnyddio’r cyfrifiaduron hyn hyd yn oed os nad ydych wedi cofrestru gydag Archifau Morgannwg.

Mae loceri ar gael i storio eich eiddo a seddau ar gyfer pryd mae angen i chi gymryd egwyl. Mae croeso i chi fwyta ac yfed yn y lle hwn ond bydd angen i chi ddod â’ch lluniaeth eich hun gan nad oes gennym unrhyw gyfleusterau ar y safle. Fodd bynnag, mae digon o siopau a chaffis gerllaw.

Y Glustogfa

Gallwch weld o’r décor (neu’r diffyg décor!) mai rhan o’r adeilad y tu ôl i’r llenni yw hon. Coridor sy’n rhedeg o amgylch y tu allan i’r ystafelloedd sicr yw’r glustogfa. Mae’n caniatáu mynediad i staff ond mae ganddo swyddogaeth bwysig arall hefyd. Mae’r tymheredd a’r lleithder yn yr ystafelloedd sicr yn cael eu rheoleiddio i’w gadw yn yr amodau gorau bosibl i ddiogelu’r dogfennau cystal ag y bo modd. Er mwyn y dogfennau, mae’n bwysig osgoi amrywiadau mewn tymheredd neu leithder. Mae’r glustogfa yn llythrennol yn clustogi’r ystafelloedd sicr rhag newidiadau yn y tymheredd y tu allan. Yn ei dro, mae hyn yn golygu bod angen i ni ymyrryd llai i gynnal yr amodau gorau posibl hyn. Mae gennym system aerdymheru ar gyfer hyn, felly rydym yn defnyddio llai o ynni.

Nodwedd bwysig arall y gellir ei gweld yn y glustogfa yw’r system atal tân. Mae’r tuniau enfawr hyn wedi’u llenwi â nwy Argonite. Os caiff tân ei synhwyro yn un o’r ystafelloedd sicr, bydd y cynwysyddion hyn yn gollwng y nwy i’r ystafell sicr lle bydd yn gwasgu’r ocsigen allan ac yn diffodd y tân o ganlyniad. A gall hyn i gyd ddigwydd heb niweidio’r dogfennau. Os byddwch yn dod am daith go iawn, yna gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd y system ei diffodd pan fo’r Archifau ar agor er mwyn osgoi peri perygl i staff neu ymwelwyr.

Ynysu a Glanhau

Rydym bob amser wrth ein boddau i dderbyn eitemau newydd i’r casgliad. Rydym yn derbyn eitemau newydd y rhan fwyaf o wythnosau, felly mae’r casgliad yn tyfu trwy’r amser. Gall eitem fod yn fawr neu’n fach, gan gynnwys unrhyw beth – o ffotograff unigol i fan llawn dogfennau a bron popeth rhwng y ddau. Os credwch fod gennych eitem/au i’w (h)adneuo, gallwch ddarllen ein Polisi Casgliad, ein Telerau Adneuo a manylion y broses o adneuo cofnodion yma.

Pan ddaw deunydd newydd i Archifau Morgannwg, caiff ei wirio gan aelod o’r tîm cadwraeth. Bydd yn chwilio am arwyddion o leithder, llwydni a phla pryfed. Weithiau mae’n bosibl i’r eitemau gael eu glanhau a’u gwneud yn ddiogel ar unwaith, ond os yw’r pla’n wael iawn, neu os oes swm mawr i’w lanhau, gall gymryd peth amser. I gadw gweddill y casgliad yn ddiogel rhag cael ei halogi, caiff eitemau sy’n aros i gael eu glanhau eu storio yma ar eu pennau eu hunain.

Mae agorfa rhwng yr ystafell ynysu a’r ystafell lanhau fel y gellir trosglwyddo dogfennau yn ddiogel rhwng yr ystafelloedd.

Ystafelloedd Sicr

Yr ystafelloedd sicr yw’r ystafelloedd lle caiff y dogfennau eu storio. Mae’r tymheredd a’r lleithder yn yr ystafelloedd sicr yn cael eu cadw mewn amodau cyson i ddiogelu’r dogfennau cystal ag y bo modd. Mae’r holl ddogfennau wedi’u pecynnu mewn blychau a deunyddiau lapio di-asid o ansawdd archifol. Mae blychau pwrpasol wedi’u gwneud ar gyfer y cyfrolau, caiff papurau rhydd eu storio mewn blychau archifol o faint safonol a cheir mapiau a chynlluniau wedi’u rholio mewn papur amddiffynnol di-asid. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r lle sydd ar gael, caiff yr eitemau eu storio yn ôl maint yn hytrach nag ar ffurf casgliad. Felly, gallai eitemau o un casgliad gael eu storio mewn sawl lle gwahanol o amgylch yr ystafell sicr neu hyd yn oed ar draws gwahanol ystafelloedd sicr. Mae gan bob dogfen rif cyfeirnod unigryw ac mae cilfachau a silffoedd yr ystafelloedd sicr hefyd wedi’u rhifo. Mae’r rhifau hyn i gyd wedi’u cofnodi yn ein cronfa ddata lleoliadau. Mae’r gronfa ddata yn ein galluogi i wybod lleoliad pob eitem.

Gallwch weld o’r lluniau nad oes ffenestri gan yr ystafelloedd sicr. Y rheswm am hyn yw bod golau yn cyfrannu at ddirywiad dogfennau, felly er mwyn gofalu amdanynt yn y ffordd orau, rydym yn eu cadw yn y tywyllwch. Wrth gwrs, mae gennym oleuadau yr ydym yn eu troi ymlaen pan fyddwn yn gweithio yn yr ystafelloedd sicr.

Mae gennym bedair ystafell sicr yn yr adeilad sydd ar hyn o bryd yn storio dros ddeuddeg cilometr o gofnodion. Ein cofnod hynaf yw grant gan y Brenin Harri II sydd dros 850 oed. Mae gennym gofnodion hefyd sy’n dyddio o’n hoes ni.

Gwneud Blychau

Dyma lle mae ein blychau archifol pwrpasol yn cael eu creu. Bydd blwch arbennig yn cael ei wneud ar gyfer pob cyfrol a llawer o eitemau eraill nad ydynt yn ffitio’n ddiogel mewn blychau archifol maint safonol. Caiff pob cyfrol neu eitem ei mesur â llaw a chaiff y dimensiynau eu rhaglennu yn y cyfrifiadur gwneud blychau. Yna bydd y peiriant gwneud blychau’n torri’r blwch o gerdyn ansawdd archifol arbennig, gan sicrhau i greu cyn lleied o wastraff â phosibl. Caiff y darnau o gerdyn sydd wedi’u torri a’u sgorio eu cydosod gan aelodau o’r tîm cadwraeth. Mae’r cerdyn yn ddi-asid ac yn gweithredu fel sbwng, gan amsugno’r asidedd o’r dogfennau mae’r blychau’n eu dal ac arafu unrhyw ddirywiad trwy wneud hynny. Maent hefyd yn ffitio i’r dim, gan gynnal y dogfennau y tu mewn a’u diogelu rhag difrod. Hyd yn hyn mae’r peiriant gwneud blychau a’r tîm cadwraeth wedi gwneud dros 40,000 o flychau.

Ely

Dyma lle mae eitemau newydd yn dod ar ôl cael eu harchwilio gan y tîm cadwraeth a’u glanhau os oes angen. Yma mae’r archifwyr yn gallu didoli a chatalogio’r dogfennau. Mae’r catalog yn rhestr o ddisgrifiadau o’r holl gofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg. Gall unrhyw un chwilio’r catalog i weld pa gofnodion rydym yn eu cadw trwy ein gwefan yma. Ystafell fawr iawn yw Ely, felly mae digon o le i grŵp wasgaru a chael golwg dda ar y dogfennau, darganfod beth maen nhw a sut maent nhw’n cyd-fynd â’i gilydd.

Mae lle hefyd i wirfoddolwyr weithio gyda thîm yr archifau. Mae gan Archifau Morgannwg dîm ymroddedig o wirfoddolwyr sy’n cwblhau tasgau gwerth ychwanegol pwysig neu dasgau ychwanegol. Fel arfer, mae’r rhain yn cynnwys helpu i ychwanegu manylion ychwanegol at y catalog neu drawsgrifio gwybodaeth o gasgliadau i’w gwneud yn haws eu defnyddio. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli, ewch i dudalennau ein gwefan gwirfoddoli

Stiwdio Gadwraeth

Y Stiwdio Gadwraeth yw lle mae’r cadwraethwyr yn gweithio i ofalu am y casgliad. Yma, gellir atgyweirio dogfennau a’u gwneud yn sefydlog fel y gall aelodau’r cyhoedd barhau i edrych arnynt yn ein Hystafell Ymchwil.

Mae llawer o offer arbenigol yn y stiwdio: cwpwrdd gwyntyllu i alluogi’r cadwraethwyr i weithio gyda ffilm a ffotograffau diraddiol, sy’n gallu allyrru nwyon a allai fod yn niweidiol; sinc i olchi dogfennau; meinciau ar gyfer cynnal gwaith atgyweirio; a bwrdd wal enfawr. Mae’r bwrdd wal yn un cwarel gwydr sy’n mesur 3m x 4m ac yn gallu cael ei oleuo o’r tu ôl. Mae mor fawr fel bod y gwarchodwyr yn defnyddio grisiau maes awyr i gyrraedd y brig.

Mae’r bwrdd wal yn galluogi’r cadwraethwr i atgyweirio mapiau a chynlluniau mawr yn fertigol a fyddai’n amhosibl mewn unrhyw ffordd arall. Cafodd y bwrdd wal ei gomisiynu’n arbennig i fod yr un maint â’r cynllun mwyaf yn ein casgliad.

Ystafell Ymchwil

Dyma lle mae aelodau’r cyhoedd yn gallu edrych ar y dogfennau sydd gan Archifau Morgannwg. Mae angen archebu eitemau gan ddefnyddio rhif cyfeirnod y catalog sy’n cael ei ddangos nesaf at ddisgrifiad y ddogfen yn y catalog. Bydd aelod o’r staff wedyn yn dod o hyd i’r dogfennau y gofynnwyd amdanynt o’r ystafell sicr a’i rhoi i chi wrth eich desg. Mae archifydd a chynorthwyydd archifau wrth law trwy’r amser i helpu pobl i ddefnyddio’r catalog, ateb cwestiynau a’u cynorthwyo gyda’u hymchwil.

Bydd angen clustog ar gyfer rhai dogfennau i’w cefnogi neu bwysau i’w helpu i orwedd yn wastad. Bydd y staff ar ddyletswydd yn rhoi’r rhain i chi er mwyn i chi allu trin y dogfennau’n ddiogel.

Mae gan y cyfrifiaduron yn yr Ystafell Ymchwil fynediad am ddim at Find My Past ac mae croeso i chi ei ddefnyddio.

Mae llyfrgell gyfeirio fechan hefyd yn yr Ystafell Ymchwil. Nid yw’n bosibl benthyca llyfrau ond mae croeso i chi eu defnyddio yn yr Ystafell Ymchwil i’ch helpu gyda’ch ymchwil.

Ni chodir tâl am ddefnyddio cyfleusterau’r Ystafell Ymchwil ond mae ambell reol y bydd angen i chi gadw ati. Efallai y bydd rhai ohonynt yn ymddangos ychydig yn rhyfedd – fel gwahardd mynd â phinnau i mewn i’r Ystafell Ymchwil a gorfod gwneud nodiadau â phensil yn lle hynny – ond mae’r holl reolau wedi’u cynllunio gan ystyried gofal am y dogfennau. Gellir gweld rhestr o reolau’r Ystafell Ymchwil yma.

Llynfi

Mae’r lle ychwanegol hwn yng nghefn ein Hystafell Ymchwil yn fan cyfarfod, arddangos a dysgu. Defnyddir y lle ar gyfer grwpiau, cynnal gweithdai ar gyfer plant ysgol a hefyd i gynnal arddangosfeydd. Os ydych yn ymweld â’r Ystafell Ymchwil, cewch wybod a oes arddangosfa i’w gweld – gallech chi ymweld â’r arddangosfa wrth aros i’r staff gael y dogfennau rydych wedi gofyn amdanynt o’r ystafelloedd sicr. Mae rhestr o arddangosfeydd sydd ar y gweill yma. Mae gan Archifau Morgannwg y lle hwn a mannau eraill ar gael i’w llogi. I gael manylion llawn am y rhain, ewch i’n gwefan.

Gobeithio eich bod wedi mwynhau edrych o gwmpas Archifau Morgannwg a dysgu am rywfaint o’r gwaith a wnawn. Gobeithiwn allu eich croesawu yn bersonol yn fuan iawn.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd