Holl ddiben Archifau Morgannwg yw casglu, gwarchod a sicrhau mynediad i gofnodion sy’n ymwneud â phobl a llefydd hen siroedd Canol a De Morgannwg. Rydyn ni wastad yn awyddus i gasglu cofnodion o arwyddocâd hanesyddol. Mae ein Polisi Casglu yn disgrifio’r math o gofnodion yr ydyn ni’n eu casglu.
Sut ydw i’n adneuo cofnodion?
Unigolion a sefydliadau
Y cam cyntaf yw cysylltu â ni drwy e-bost, dros y ffôn neu mewn person i drafod y cofnodion sydd gennych. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’n Polisi Casglu. Os oes angen, gallwn drefnu ymweliad gan archifydd i fwrw golwg dros y cofnodion a’u casglu os ydynt yn gymwys. Gallwn awgrymu ffyrdd eraill o’u cadw os nad ydyn nhw’n addas i ni.
Cynghorion defnyddiol i adneuwyr