Canllaw Ymchwil ar gyfer Hanes Lleiafrifoedd Ethnig

Canllaw Ymchwil ar gyfer Hanes Lleiafrifoedd Ethnig ym Morgannwg

Cefnogwyd gan Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru

Partneriaid prosiect Norena Shopland a Race Council Cymru

Lluniwyd y canllaw hwn gan Archifau Morgannwg ar gyfer ymchwilwyr i hanesion ethnig leiafrifol.  Mae’n cyfeirio ymchwilwyr at gasgliadau o ddiddordeb a dulliau o adnabod unigolion a chymunedau nad oedd wedi’u hadnabod gynt neu heb gynrychiolaeth ddigonol. Drwy ddefnyddio astudiaethau achos seiliedig ar ddeunydd a gedwir yn yr archif, mae’n cyflwyno llwybrau tuag at ddatgelu hanes lleiafrifol. Mae’r canllaw yn gam sylweddol tuag at sicrhau bod cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cydnabod, eu deall a’u dathlu fel rhan annatod o dreftadaeth Morgannwg, ac mae ganddo rôl hanfodol mewn hyrwyddo cynwysoldeb hanesyddol, cydlyniant cymdeithasol, ac ymchwil yn y dyfodol yng Nghymru.

Rhybudd cynnwys

Mae’r canllaw ymchwil hwn yn cynnwys iaith sarhaus, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i sarhau hiliol, termau difrïol, a mathau eraill o iaith wahaniaethol. Mae’r termau hyn wedi’u cynnwys at ddibenion ymchwil o fewn cyd-destun hanesyddol. Fodd bynnag, cynghorir darllenwyr y gallai dod ar draws iaith o’r fath beri gofid neu ddicter.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd