Canllaw Ymchwil ar gyfer Hanes Lleiafrifoedd Ethnig ym Morgannwg

Canllaw Ymchwil ar gyfer Hanes Lleiafrifoedd Ethnig ym Morgannwg

Cefnogwyd gan Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru

Partneriaid prosiect Norena Shopland a Race Council Cymru

Rydym yn bwriadu llunio canllaw ymchwil ar gyfer hanes Lleiafrifoedd Ethnig ym Morgannwg. Bydd y canllaw yn amlinellu adnoddau sydd ar gael i ymchwilwyr, yn darparu enghreifftiau o gofnodion, yn cynnwys geirfa o dermau, ac yn cyfeirio at gasgliadau perthnasol a gedwir mewn mannau eraill. Bydd cofnodion swyddogol a sefydliadol, fel cofnodion yr heddlu, llysoedd ac ysbytai, yn cael eu cynnwys, ynghyd â chofnodion o sefydliadau cymunedol a deunydd archifol personol.

Mae arbenigwyr mewn methodolegau ymchwil a hanes Lleiafrifoedd Ethnig wedi cymryd rhan i ddylunio a chynghori ar y prosiect. Mae swyddog prosiect yn goruchwylio’r prosiect, recriwtio, hyfforddi a goruchwylio gwirfoddolwyr ac ymchwilwyr cyflogedig. Ar hyn o bryd, prin yw’r bobl o leiafrifoedd ethnig sy’n ymchwilio i hanes ethnig amrywiol yng Nghymru.  Er mwyn annog myfyrwyr ac eraill i ymgysylltu â’r maes ymchwil hwn, rydym yn bwriadu cyflogi nifer o ymchwilwyr i archwilio casgliadau penodol.

Bydd y canllaw ar gael yn ddwyieithog ar wefan Archifau Morgannwg. Bydd cyhoeddi digidol yn sicrhau bod y canllaw yn parhau i fod yn gyfredol a’i bod yn hawdd ymateb i adborth, ac yn helpu dosbarthiad trwy gylchredeg ar e-bost.

Er i Gymru greu hanes trwy gynnwys hanes ac amrywiaeth ethnig Cymru a’r byd fel rhan ofynnol o’n cwricwlwm, mae yna ddiffyg wybodaeth hanesyddol ar gael. Cyn i adrannau’r llywodraeth allu sicrhau newidiadau o fewn creu polisi a chyflenwi gwasanaethau, mae’n rhaid i sefydliadau treftadaeth defnyddio’r dulliau mwyaf addas er mwyn darparu’r wybodaeth yma, sydd yn brin ar hyn o bryd.

Mae’r canlyniadau’n cynnwys:

  • Ehangu mynediad i archifau Lleiafrifoedd Ethnig
  • Annog adneuo archifau Lleiafrifoedd Ethnig
  • Gwella termau a ddefnyddir mewn catalogio archifau a mynegeio.
  • Defnyddio’r canllaw gan wasanaethau archifau eraill yng Nghymru.

 

At ei gilydd, bydd y canllaw yn ychwanegu deunydd newydd at hanes lleiafrifoedd ethnig Cymru, gan ddarparu’r fethodoleg gyntaf ledled Cymru ar gyfer chwilio a chydnabod cynnwys hanes lleiafrifoedd ethnig mewn casgliadau a chyhoeddi’r deunydd hwnnw i’w ddefnyddio gan y cyhoedd yn gyffredinol.

Cyfle

Fel gwirfoddolwr, byddwch yn ymchwilio i adnoddau posibl i’w cynnwys yn y canllaw ac yn profi geirfa o dermau sydd wedi’u cynllunio i helpu i nodi cynnwys perthnasol. Drwy gymryd rhan yn y prosiect hwn, byddwch yn cyfrannu at waith sy’n mynd i’r afael â’r diffyg cynnwys ymchwil lleiafrifoedd ethnig, i dynnu sylw at ac annog y defnydd o ymchwil ac adnoddau lleiafrifoedd ethnig yn Archifau Morgannwg. Rydym am sicrhau bod cymunedau’n cael eu cynrychioli’n briodol, a bod cynrychiolaeth wedi’i wneud gan bobl leiafrifol ethnig eu hunain.

Llinell amser a gynigir

  • Recriwtio gwirfoddolwyr ac ymchwilwyr cyflogedig – Mehefin i Orffennaf 2023
  • Hyfforddi, cynorthwyo a goruchwylio gwirfoddolwyr ac ymchwilwyr cyflogedig wrth adfer gwybodaeth – Awst i Ragfyr 2023.

Gwybodaeth ychwanegol

Rydym yn deall y gall eich amser fod yn gyfyngedig a bod gennych ymrwymiadau a chyfrifoldebau eraill. Felly, rydym wedi ymrwymo i roi profiad gwirfoddoli hyblyg sy’n gweddu’ch amserlen a’ch anghenion personol. Rydym yma i’ch cefnogi ar hyd y ffordd ac mae gennym swyddog prosiect pwrpasol i ateb unrhyw un o’ch cwestiynau/pryderon.

 

Rydym yn bwriadu cyfarfod ar-lein ac yn bersonol. Byddwn yn annog cyfranogwyr i gymryd rhan ar-lein gan ddefnyddio adnoddau fel Papurau Newydd Cymru Ar-lein, gan eu galluogi i gymryd rhan gartref. Rydym yn cydnabod bod gan bobl sgiliau a galluoedd gwahanol, rydym am wneud y prosiect hwn mor hygyrch a chynhwysol â phosibl. Rhowch wybod i ni os oes unrhyw addasiadau y dylem eu gwneud neu gymorth ychwanegol y gallem ei gynnig, er mwyn i chi gymryd rhan.

Cymryd Rhan

I fynegi diddordeb yn y prosiect hwn, llenwch y ffurflen gais i wirfoddolwyr a’i dychwelyd atom. Am ragor o wybodaeth am y project hwn, cysylltwch â glamro@caerdydd.gov.uk

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd