Gweithdai

Addaswyd ymweliadau ar gyfer oedran y plant sy’n mynychu, ac yn gallu cysylltu a’r cam cynnydd perthnasol. Nodir y gweithdai sydd ar gael isod.  Os oes gennych bwnc mewn golwg nad yw wedi’i restru isod, cysylltwch â ni i drafod y posibilrwydd o drefnu gweithdy ar thema o’ch dewis.

Mae ein gweithdai yn addas yn bennaf ar gyfer Cam Cynnydd 3.

Maent yn eistedd o fewn ardal Dyniaethau o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad, ond yn cysylltu ag Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, ac i Fathemateg a Rhifedd.

Mae’r gweithdai yn canolbwyntio ar fywyd a phrofiad pobol bu’n byw yn Ne Cymru yn y gorffennol, a gwnaed pob ymdrech i gysylltu’r cynnwys yn uniongyrchol a chymuned yr ysgol.

Mae ymweliad a’r Archifau yn cynnig profiad i’r disgyblion o ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol o’n casgliad, a chyfle gwych ar gyfer dysgu a datblygu sgiliau newydd tu allan i’r ystafell dosbarth.

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Darganfyddwch mwy am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobol a chymunedau de Cymru. Dysgwch am fywyd wrth y ffrynt, am y bobol o de Cymru bu’n gwasanaethu yn y Rhyfel, ac am y gofal a chynigwyd i filwyr a anafwyd; darganfyddwch sut effeithiwyd ar fywyd cartref ac yn yr ysgol gan y Rhyfel; ymchwiliwch i’r newidiadau i fywydau menywod yn ystod y Rhyfel.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae llyfrau log ysgol, ffotograffau, llythyron, dyddiaduron a llawer mwy.

Yr Ail Ryfel Byd

Dysgwch fwy am effaith yr Ail Ryfel Byd yn eich ardal chi.  Darganfyddwch sut effeithiwyd ar eich ysgol; dysgwch am gyrchoedd awyr a’r camau diogelu a gymerwyd; dysgwch fwy am ffoaduriaid yn eich tref neu bentref; dysgwch am y brwydrau ar y Ffrynt Cartref drwy ‘Dig for Victory’ a ‘Make Do and Mend’; a sut  effeithiwyd ar y werin yn ne Cymru gan y dogni.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae cofrestrau ysgol, mapiau, ffotograffau, llythyrau a llawer mwy.

Cyfoeth a Thlodi yn Oes Fictoria

Dysgwch sut roedd y bobl gyfoethog yn byw yn eich ardal chi yn Oes Fictoria; a dysgwch sut roedd pobl dlawd de Cymru’n byw eu bywydau.   Dysgwch sut le oedd yr ysgol yn Oes Fictoria; dysgwch am fywydau gwaith y bobl yn eich ardal; darganfyddwch y tai roedd y bobl Fictoraidd yn byw ynddynt, ac am y dodrefn a’r offer yr oeddent yn berchen arnynt.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae ffurflenni’r cyfrifiad, mapiau, ffotograffau, cofrestrau ysgol, dyddiaduron a llawer mwy.

O Ddociau Caerdydd i Fae Caerdydd

Dysgwch am sut y datblygodd Bae Caerdydd o Ddociau gweithiol prysur y gorffennol.   Archwiliwch sut mae’r ardal wedi newid dros amser; darganfyddwch y bobl oedd yn byw yn Nociau Caerdydd ac o ble y daethant; dysgwch fwy am waith a busnes Dociau Caerdydd.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae mapiau, ffurflenni’r cyfrifiad, ffotograffau, cyfeiriaduron masnach a llawer mwy.

O’r Pyllau Glo i Ddociau Caerdydd: Diwydiant a Llongau yn Ne Cymru

Dysgwch fwy am lo: o ble y daeth? Sut y’i defnyddiwyd? I ble yr oedd yn mynd? Dysgwch sut roedd glo Cymru yn pweru’r byd a sut roedd yn cael ei allforio drwy Ddociau Caerdydd.

Ymysg y ffynonellau mae: mapiau, ffotograffau, ffurflenni’r cyfrifiad, cyfeiriaduron masnach, cofnodion llongau a llawer mwy.

Astudiaethau lleol

Darganfyddwch fwy am hanes eich ardal leol.  Sut mae eich ardal leol wedi newid dros amser?  Sut le oedd eich tref neu bentref yn y gorffennol?  Pwy oedd yn byw yno?  O ble roeddent yn dod?  Beth oedd eu swyddi?  Dysgwch am sut le oedd yr ysgol yn y gorffennol, a rheolau a threfniadau’r ysgol.

Ymysg y ffynonellau mae: mapiau, ffurflenni’r cyfrifiad, ffotograffau, cofrestrau ysgolion, cyfeiriaduron masnach a llawer mwy.

Taith a Chwis Archifau Morgannwg

Hoffech chi wybod beth sy’n mynd mlaen y tu ôl i’r llenni yn Archifau Morgannwg?  Dewch i weld yr hyn nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn cael y cyfle i’w weld!  Dewch i gael golwg ar ein hystafelloedd cadarn, ein peiriant gwneud bocsys a’n stiwdio gadwraeth.   Ac ar hyd y daith gallwch ddarganfod yr atebion i gwestiynau’r cwis.

Mae’n bosib addasu ein gweithdai ar gyfer pob Cam Cynnydd, ynghyd a’r rhai sy’n astudio ar gyfer Lefel-A ac i Fagloriaeth Cymru.

Maent yn eistedd o fewn ardal Dyniaethau o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad, ond yn cysylltu ag Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, ac i Fathemateg a Rhifedd.

Mae’r gweithdai yn canolbwyntio ar fywyd a phrofiad pobol bu’n byw yn Ne Cymru yn y gorffennol, a gwnaed pob ymdrech i gysylltu’r cynnwys yn uniongyrchol a chymuned yr ysgol.

Mae ymweliad a’r Archifau yn cynnig profiad i’r disgyblion o ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol o’n casgliad, a chyfle gwych ar gyfer dysgu a datblygu sgiliau newydd tu allan i’r ystafell dosbarth.

Streic! Terfysgoedd Tonypandy a Streic Chwarel y Penrhyn

CD-Rom yn cynnwys adnoddau sy’n canolbwyntio ar Derfysgoedd Tonypandy, 1910-1911, a Streic Chwarel y Penrhyn, 1900-1903, gan ddefnyddio adnoddau o Archifau Morgannwg a Gwasanaethau Archifau Gwynedd.

Terfysgoedd Tonypandy

Dysgwch fwy am Derfysgoedd Tonypandy ym 1910 a’u heffaith ar yr ardal leol.   Ymchwiliwch i rôl yr heddlu yn y digwyddiadau.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae ffotograffau, cofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol, cofnodion Heddlu Morgannwg, erthyglau papur newydd a mwy.

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Darganfyddwch mwy am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobol a chymunedau de Cymru. Dysgwch am fywyd wrth y ffrynt, am y bobol o de Cymru bu’n gwasanaethu yn y Rhyfel, ac am y gofal a chynigwyd i filwyr a anafwyd; darganfyddwch sut effeithiwyd ar fywyd cartref ac yn yr ysgol gan y Rhyfel; ymchwiliwch i’r newidiadau i fywydau menywod yn ystod y Rhyfel.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae llyfrau log ysgol, ffotograffau, llythyron, dyddiaduron a llawer mwy.

Yr Ail Ryfel Byd

Dysgwch fwy am effaith yr Ail Ryfel Byd yn eich ardal chi.  Darganfyddwch sut effeithiwyd ar eich ysgol; dysgwch am gyrchoedd awyr a’r camau diogelu a gymerwyd; dysgwch fwy am ffoaduriaid yn eich tref neu bentref; dysgwch am y brwydrau ar y Ffrynt Cartref drwy ‘Dig for Victory’ a ‘Make Do and Mend’; a sut  effeithiwyd ar y werin yn ne Cymru gan y dogni.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae cofrestrau ysgol, mapiau, ffotograffau, llythyrau a llawer mwy.

Cyfoeth a Thlodi yn Oes Fictoria

Dysgwch sut roedd y bobl gyfoethog yn byw yn eich ardal chi yn Oes Fictoria; a dysgwch sut roedd pobl dlawd de Cymru’n byw eu bywydau.   Dysgwch sut le oedd yr ysgol yn Oes Fictoria; dysgwch am fywydau gwaith y bobl yn eich ardal; darganfyddwch y tai roedd y bobl Fictoraidd yn byw ynddynt, ac am y dodrefn a’r offer yr oeddent yn berchen arnynt.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae ffurflenni’r cyfrifiad, mapiau, ffotograffau, cofrestrau ysgol, dyddiaduron a llawer mwy.

O Ddociau Caerdydd i Fae Caerdydd

Dysgwch am sut y datblygodd Bae Caerdydd o Ddociau gweithiol prysur y gorffennol.   Archwiliwch sut mae’r ardal wedi newid dros amser; darganfyddwch y bobl oedd yn byw yn Nociau Caerdydd ac o ble y daethant; dysgwch fwy am waith a busnes Dociau Caerdydd.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae mapiau, ffurflenni’r cyfrifiad, ffotograffau, cyfeiriaduron masnach a llawer mwy.

O’r Pyllau Glo i Ddociau Caerdydd: Diwydiant a Llongau yn Ne Cymru

Dysgwch fwy am lo: o ble y daeth? Sut y’i defnyddiwyd? I ble yr oedd yn mynd? Dysgwch sut roedd glo Cymru yn pweru’r byd a sut roedd yn cael ei allforio drwy Ddociau Caerdydd.

Ymysg y ffynonellau mae: mapiau, ffotograffau, ffurflenni’r cyfrifiad, cyfeiriaduron masnach, cofnodion llongau a llawer mwy.

Astudiaethau lleol

Darganfyddwch fwy am hanes eich ardal leol.  Sut mae eich ardal leol wedi newid dros amser?  Sut le oedd eich tref neu bentref yn y gorffennol?  Pwy oedd yn byw yno?  O ble roeddent yn dod?  Beth oedd eu swyddi?  Dysgwch am sut le oedd yr ysgol yn y gorffennol, a rheolau a threfniadau’r ysgol.

Ymysg y ffynonellau mae: mapiau, ffurflenni’r cyfrifiad, ffotograffau, cofrestrau ysgolion, cyfeiriaduron masnach a llawer mwy.

Taith Archifau Morgannwg

Hoffech chi wybod beth sy’n mynd mlaen y tu ôl i’r llen yn Archifau Morgannwg?  Dewch i weld yr hyn nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn cael y cyfle i’w weld!  Dewch i gael golwg ar ein hystafelloedd sicr, ein peiriant gwneud bocsys a’n stiwdio gadwraeth; a darganfod mwy am y mathau gwahanol o swyddi a gyrfaoedd sydd ar gael o fewn y sector Archifau.

Hughesovka: o’r Cymoedd i’r Steppes

Darganfyddwch am y gwaith haearn a sefydlwyd gan John Hughes o Ferthyr Tudful yn y 1870au yn beth sydd erbyn heddiw yn Donetsk yn Wcráin. Dysgwch am y gymuned a dyfodd o amgylch y gweithfeydd: y dref, y teuluoedd a symudodd yna, a bywyd dan y Tsar. Ymchwiliwch i effaith chwildro Rwsia ym 1917 ar Hughesovka a sut wnaeth bywyd newid o dan reolaeth gomiwnyddol.

Ymysg y ffynonellau mae ffotograffau, mapiau, llythyrau, cofnodion eglwys, cofnodion New Russia Company a mwy.

Adnoddau i’w Lawrlwytho

 

Crëwyd ein gweithdai ar gyfer Cam Cynnydd 3. Ond mae modd addasu’r nodiadau ar gyfer oedrannau eraill.

Maent yn eistedd o fewn ardal Dyniaethau o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad, ond yn cysylltu ag Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, ac i Fathemateg a Rhifedd.

Mae’r gweithdai yn canolbwyntio ar fywyd a phrofiad pobol bu’n byw yn Ne Cymru yn y gorffennol

Y Tuduriaid a’r Stiwartiaid

Dysgwch sut roedd pobol yn byw yn ne Cymru yng nghyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid; beth roeddent yn gwisgo, beth roeddent yn bwyta, a sut roeddent yn dodrefnu eu tai.  Dysgwch mwy am y brenhinoedd a breninesau’r oes a’u cysylltiadau a de Cymru.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae ewyllysiau a rhestrau eiddo, ryseitiau, selnodau, llythyrau a llawer mwy.

Delweddau Gweithdy Nodiadau’r Athro

Yr Ail Ryfel Byd

Dysgwch fwy am effaith yr Ail Ryfel Byd ar Gaerdydd a de Cymru. Darganfyddwch sut effeithiwyd ar ysgolion; dysgwch am gyrchoedd awyr a’r camau diogelu a gymerwyd; dysgwch fwy am ffoaduriaid; dysgwch am y brwydrau ar y Ffrynt Cartref drwy ‘Dig for Victory’ a ‘Make Do and Mend’; a sut  effeithiwyd ar y werin yn ne Cymru gan y dogni.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae cofrestrau ysgol, mapiau, ffotograffau, llythyrau a llawer mwy.

Delweddau GweithdyNodiadau’r Athro

Cyfoeth a Thlodi yn Oes Fictoria

Dysgwch sut roedd y bobl gyfoethog yn byw yn ne Cymru yn Oes Fictoria; a dysgwch sut roedd pobl dlawd de Cymru’n byw eu bywydau.   Dysgwch sut le oedd yr ysgol yn Oes Fictoria; dysgwch am fywydau gwaith y bobl yn ne Cymru; darganfyddwch y tai roedd y bobl Fictoraidd yn byw ynddynt, ac am y dodrefn a’r offer yr oeddent yn berchen arnynt.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae ffurflenni’r cyfrifiad, mapiau, ffotograffau, cofrestrau ysgol, dyddiaduron a llawer mwy.

Delweddau GweithdyNodiadau’r Athro

O’r Pyllau Glo i Ddociau Caerdydd: Diwydiant a Llongau yn Ne Cymru

Dysgwch fwy am lo: o ble y daeth? Sut y’i defnyddiwyd? I ble yr oedd yn mynd? Dysgwch sut roedd glo Cymru yn pweru’r byd a sut roedd yn cael ei allforio drwy Ddociau Caerdydd.

Ymysg y ffynonellau mae: mapiau, ffotograffau, ffurflenni’r cyfrifiad, cyfeiriaduron masnach, cofnodion llongau a llawer mwy.

Delweddau GweithdyNodiadau’r Athro

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Darganfyddwch mwy am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobol a chymunedau de Cymru. Dysgwch am fywyd wrth y ffrynt, am y bobol o de Cymru bu’n gwasanaethu yn y Rhyfel, ac am y gofal a chynigwyd i filwyr a anafwyd; darganfyddwch sut effeithiwyd ar fywyd cartref ac yn yr ysgol gan y Rhyfel; ymchwiliwch i’r newidiadau i fywydau menywod yn ystod y Rhyfel.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae llyfrau log ysgol, ffotograffau, llythyron, dyddiaduron a llawer mwy.

Delweddau GweithdyNodiadau’r Athro

Siopa yn y Gorffennol

Dysgwch am sut mae ein dull o siopa wedi newid dros y blynyddoedd. Ymchwiliwch i’r newidiadau i’r stryd fawr ac i ganol ddinas Caerdydd; darganfyddwch mwy am ddatblygiad clidio i’r cartref; darganfyddwch am ddogni bwyd yn ystod adegau anodd; dysgwch am y danteithion ar gael mewn caffis ers talwm.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae ffotograffau, cyfeirlyfrau masnach, cynlluniau adeiladu, y cyfrifiad a llawer mwy.

Delweddau GweithdyNodiadau’r Athro

Os oes gennych bwnc mewn golwg nad yw wedi’i restru uchod, cysylltwch â ni drafod y posibilrwydd o drefnu gweithdy ar eich thema ddewisol.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd