‘William Burges – Gothic Revival Genius’ gan Matthew Williams

'William Burges – Gothic Revival Genius' gan Matthew Williams

11:00 am - 12:00 pm | 17/04/2024

Ymunwch a Matthew Williams, darlithydd, awdur a darlledwr, wrth iddo drafod bywyd a gwaith William Burges, yr athrylith a greodd rhai o adeiladau mwyaf eithriadol yr 19eg ganrif, gan gynnwys Castell Caerdydd a Chastell Coch. Darganfyddwch mwy am fyd ecsentrig Burges a’i greadigaethau hynod.

 

Ymwelwch â’r Stiwdio Cadwraeth yn Archifau Morgannwg i ddysgu mwy am ein prosiect cyfredol i gadw casgliad helaeth darluniadau a chynlluniau Burges, a grëwyd ar gyfer yr Ardalydd Bute ac a drosglwyddwyd yn ddiweddar i’r Archifau o Gastell Caerdydd. Cefnogwyd y prosiect yma gan y National Manuscripts Conservation Trust.

 

Cafodd Matthew Williams ei hyfforddi fel hanesydd celf a phensaernïaeth cyn troi at Astudiaethau Amgueddfeydd.  Mae’n arbenigwr cydnabyddedig ar waith y dylunydd William Burges, bu’n Curadur ar Gastell Caerdydd am gyfnod hir, ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth mewn cyfnodolion celf a phensaernïaeth. Mae’n darlithio ar ddyluniad ac mae ganddo ddiddordeb penodol yn y 19eg ac 20fed ganrif. Etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr yn 2019.

 

Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.

 

Mae sgwrs Matthew Williams am 11yb.  Bydd teithiau o’r stiwdio yn cael ei drefnu am 10.30, 12 a 12.20.  Byddwn yn cysylltu ar wahân i drefnu amser.

 

Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

 

https://www.ticketsource.co.uk/glamorgan-archives/william-burges-gothic-revival-genius-by-matthew-williams/2024-04-17/11:00/t-gaglapx

Location

Loading Map....

Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd