6:00 pm-7:00 pm | 06/11/2024
Ymunwch a’r Athro Martin Johnes wrth iddo drafod ei lyfr newydd, ‘Welsh NotElementary Education and the Anglicisation of Wales’. Tocyn pren oedd y Welsh Not a roddwyd i blant cafodd eu dal yn siarad Cymraeg yn ysgolion y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn aml aeth law yn llaw a chosb gorfforol a chredwyd yn eang yr arweiniodd at ddirywiad yr iaith Gymraeg. Er bod gan y Welsh Not statws eiconig o fewn dealltwriaeth boblogaidd o hanes Cymru, ni chyflawnwyd astudiaeth hyd at hyn ar ble, pryd a pham ei ddefnyddiwyd.
Mae Martin Johnes yn Athro yn Hanes Modern ym Mhrifysgol Abertawe ac yn un o haneswyr mwyaf adnabyddus Cymru. Efe yw awdur cyfres o lyfrau ar hanes Cymru, gan gynnwys ‘Wales: England’s Colony?’, cafodd ei addasu i gyfres teledu i’r BBC.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
Location
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW