
11:00 am-12:00 pm | 24/07/2026
Ymunwch ag Ellie Gregory wrth iddi ymchwilio i brofiadau mamau di-briod yn Ne Cymru rhwng 1910 a 1921 trwy gofnodion cartrefi mamau Byddin yr Iachawdwriaeth Caerdydd.
Byddwn yn darganfod pam aeth menywod i’r cartrefi yma, yr heriau oedd yn eu hwynebu, a barn cymdeithas yn y cyfnod o famau di-briod.
Gan ddefnyddio ffynonellau archifol gwreiddiol, bydd y sgwrs yma yn datgelu sut oedd cartrefi mamau yn gallu cynnig gofal yn ogystal â rheolaeth, ac yn dangos bod nifer o’r agweddau tuag at fabwysiadu yn bodoli cyn Deddf Mabwysiadu Plant 1926. Mae hefyd yn gofyn cwestiwn pwysig: i ba raddau mae ein hagweddau tuag at famau di-briod, mabwysiadau, a theulu wedi newid ers hynny?
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Location
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW

