2:00 pm-3:00 pm | 05/09/2024
Ymunwch a Dr Abdul-Azim Ahmed wrth iddo drafod prosiect Islam yng Nghymru. Nod y prosiect yw ceisio dogfennu ac adrodd “stori” Islam yng Nghymru a gwneud hanes Mwslimiaid yng Nghymru yn hygyrch i academyddion, y cyhoedd yn ehangach, a Mwslimiaid Cymreig eu hunain, er mwyn ehangu dealltwriaeth y cyhoedd o Gymru amlddiwylliannol ac aml-grefydd.
Mae Dr Abdul-Azim Ahmed yn Brif Ymchwilydd ar gyfer y prosiect Islam yng Nghymru. Mae’n Ddarlithydd mewn Astudiaethau Mwslimaidd Prydeinig ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU. Mae Dr Ahmed yn gweithio tuag at gyhoeddi llyfr sy’n adrodd hanes bron i 2000 o fosgiau ym Mhrydain.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
Location
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW