2:00 pm-3:00 pm | 28/04/2025
Ymunwch a Keith Moger i ddarganfod mwy am hanes a datblygiad ysbytai Caerdydd, gan gynnwys y rheini sydd erbyn hyn wedi symud at ddefnydd arall neu wedi diflannu’n gyfan gwbl. Mae gan nifer o bobol atgofion, naill a’i fel claf, ymwelydd neu aelod o staff, o Lansdowne, Glan Ely, Dewi Sant, Ysbyty Brenhinol Caerdydd a’r sefydliadau eraill sydd, dros y blynyddoedd, wedi darparu gofal i ddinasyddion Caerdydd.
Bu Keith Moger yn gweithio o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol am dros 40 mlynedd, y rhan fwyaf fel uwch rheolwr yng Nghaerdydd. Yn ystod yr ymrwymiad sylweddol yma bu’n gweithio o’i fewn, neu’n gyfrifol am reolaeth rhan fwyaf o ysbytai Caerdydd, gan gynnwys deg mlynedd fel prif weinyddwr Ysbyty Athrofaol Caerdydd. Ers ymddeol mae’n ymddiddori yn hanes y sefydliadau yma.
I gyd-fynd a’r sgwrs bydd arddangosfa o ddogfennau o gasgliad Archifau Morgannwg.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
Location
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW