6:00 pm-7:00 pm | 03/02/2025
Ymunwch a ni wrth i ni gofio 40 mlynedd ers Streic y Glowyr 1984/85 gyda Dr Ben Curtis, bydd yn edrych ar ddigwyddiadau yn y maes glo cyn ac yn ystod y Streic.
Mae Dr Ben Curtis yn hanesydd cymdeithasol a gyhoeddus o hanes modern Cymru a Phrydain sy’n arbenigo mewn hanes mwyngloddio. Mae’n Swyddog Ymchwil Ôl-Ddoethurol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus mewn Hanes Cymdeithasol a Llafur ym Mhrifysgol Wolverhampton. Efe yw awdur ‘The South Wales Miners, 1964-1985’.
I gyd-fynd a’r sgwrs bydd arddangosfa o ddogfennau o gasgliad Archifau Morgannwg sy’n ymwneud a’r Streic.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
Location
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW