2:00 pm-3:00 pm | 04/07/2023
Rhaglen digwyddiadau Archifau Morgannwg
Sefydlwyd ‘The Victorian Barry Experience’ yn 2018 gan Nic a Shirley Hodges, gwr a gwraig sy’n frwdfrydig am rannu eu casgliad eang o bethau cofiadwy am y Barri. Eu nod yw arddangos hanes cyfoethog y dref Gymreig yma ac amlygu’r heriau a’r llwyddiannau a lluniodd ei ddatblygiad dros amser.
Trwy gyfuniad o hen luniau, erthyglau papur newydd a chofnodion heddlu mae Nic yn arwain teithiau cerdded hanes sy’n cynnig golwg i ddyddiau cynnar y Barri. Gall ymwelwyr ddysgu am gymuned y dref, a ddaeth o bell ac agos i weithio yn y dociau ac adeiladau bywyd newydd. Maent hefyd yn ymchwilio o rai o’r materion cymdeithasol a luniodd bywyd yn y Barri yn ystod y cyfnod yma.
Mae ‘The Demon Drink’ yn ymchwilio i’r gwrthdaro rhwng y sawl oedd yn mwynhau diod fach a’r gymdeithas ddirwest. Mae’r sgwrs yma yn syfrdanol ac yn ddifyr, yn dod a hanes lleol yn fyw mewn modd unigryw ac addysgiadol. Mae ‘The Victorian Barry Experience’ yn cynnig golwg unigryw i’r gorffennol ac yn helpu ymwelwyr i ddeall yn well sut datblygodd y dref i’r gymuned fywiog sy’n bodoli heddiw.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
Location
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW