2:00 pm-3:30 pm | 22/04/2021
Sefydlwyd Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW) yn Nhachwedd 2017 gyda’r nod o ddatgelu, cofnodi, cadw a rhannu treftadaeth ddiwylliannol ddiriaethol ac anniriaethol cymunedau Iddewig de Cymru.
Gweithiodd y Gymdeithas ar brosiect mewn partneriaeth ac Amgueddfeydd Rhondda Cynon Taf. Bydd y sgwrs yma yn canolbwyntio ar y darganfyddiadau a’r ymchwil yn Amgueddfa Cwm Cynon ac o fewn y gymuned leol. Y nod yw esbonio nid yn unig y wybodaeth daeth i’r golwg ond sut ddaethpwyd o hyd i’r wybodaeth yna.
Ymunwch a ni ar 22ain Ebrill i ddysgu sut arweiniodd eitemau bach o fewn casgliad Amgueddfa Cwm Cynon at ailddarganfod nifer o deuluoedd Iddewig bu’n byw ac yn ffynnu yng Ngwm Cynon dros sawl flwyddyn.
https://www.eventbrite.co.uk/e/researching-jewish-history-in-the-cynon-valley-tickets-147952228097