Recovering Britain’s Amateur Theatrical Past 1789-1914: a Glamorgan Perspective

Recovering Britain’s Amateur Theatrical Past 1789-1914: a Glamorgan Perspective

2:00 pm-3:00 pm | 05/10/2023

Rhaglen digwyddiadau Archifau Morgannwg

Dr David Coates, Prifysgol Warwig

 

Mae theatr amatur ym mhob man. Ers canol y 19eg ganrif, mae cynyrchiadau theatr amatur wedi bod yn llawer mwy niferus na’r perfformiadau proffesiynol cyfatebol. Ond mae hanes cyfoethog theatr amatur a’u bwysigrwydd i hanesion cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd wedi ei esgeuluso bron yn llwyr.

 

Yn y sgwrs yma bydd Dr David Coates yn mynd a chi ar daith wib o hanes theatr amatur Prydain, o’r Chwyldro Ffrengig hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar y daith yma byddwch yn cyfarfod a pherfformiadau amatur ym mhob math o leoedd – o leoliadau mawr yng nghanol dinasoedd a threfi at ystafelloedd cartrefol mewn neuaddau pentref diarffordd a phlastai.  Byddwch yn darganfod perfformiadau ar fyrddau llong y llynges yng nghanol y môr a gwersylloedd milwrol cartref ac ar draws yr Ymerodraeth.  Clywch hefyd am frwdfrydedd y Frenhines Fictoria am theatr, theatr ffuglennol Jane Austen yn Mansfield Park a thalentau actio amatur Charles Dickens.  Yn bwysicach oll, gwelwch sut mae deunyddiau o gasgliadau Archifau Morgannwg yn helpu i greu naratif ar gyfer datblygiad theatr amatur ym Mhrydain rhwng 1789 a 1914.

 

Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.

 

Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

 

https://ticketsource.co.uk/glamorgan-archives

Location

Loading Map....

Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW

© Archifau Morgannwg 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd