Prosiect Gwirfoddolwyr Archifau Digidol #Crowd Cymru

Prosiect Gwirfoddolwyr Archifau Digidol #Crowd Cymru

2:00 pm - 3:00 pm | 14/02/2023

Rhaglen digwyddiadau Archifau Morgannwg

 

Bydd Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol Archifau Gwent, Jennifer Evans, yn ymuno a ni i drafod y prosiect gwirfoddoli digidol #CrowdCymru, sy’n cael ei arwain ar y cyd gan Archifau Gwent, Archifau Morgannwg a Chasgliadau Arbennig ag Archifau Prifysgol Caerdydd.

 

Bydd y prosiect yma, a gefnogwyd can Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, o ddiddordeb mawr i’r rhai sydd wedi eisiau cyfrannu at wirfoddoli yn archifau De Cymru ond nad ydynt yn gallu teithio.  Mae’r prosiect digidol llwyr yma yn sicrhau bod modd i wirfoddolwyr o bell tagio, anodi a disgrifio’r casgliadau treftadaeth ddigidol a gadwyd gan y tair cadwrfa ardderchog yma o gysur eu cartrefi. Yr oll sydd angen arnoch yw ychydig bach o amser a mynediad ar-lein!

 

Bydd Jennifer yn siarad am rheoli’r prosiect, yn dangos detholiad o’r cynnwys amrywiol ac ecletig bydd y gwirfoddolwyr yn trin ac yn trafod manteision gwirfoddoli.

 

Nodwch bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Bydd gofyn i chi lawrlwytho app Teams i’ch dyfais o flaen llaw.

 

Bydd linc yn cael ei ddanfon atoch cyn y digwyddiad. Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd