Peter Finch: Edging the City

Peter Finch: Edging the City

2:00 pm - 3:00 pm | 30/11/2022

Rhaglen digwyddiadau Archifau Morgannwg, gyda Chymdeithas Hanes Grangetown

 

Wedi cyfyngu i’w awdurdod lleol o ganlyniad i gyfyngiadau’r cyfnod clo, cerddodd prif groniclwr Caerdydd, Peter Finch, ffin Caerdydd. Yn y cyflwyniad yma, wedi ysbrydoli gan ei lyfr newydd Edging the City, bydd yn rhannu’r mewnwelediadau a’r darganfyddiadau a wnaeth ar hyd y ffordd.

 

Prin mae ffin Caerdydd yn ymddangos ar fapiau.  Nid oes gan y ddinas waliau bellach (fel Efrog neu Gaer), neu drefn trafnidiaeth gylchol fel yr M25 yn Llundain.  Yn hytrach, mae’r ffin llinell ddotiau yn teithio dros gaeau, ar hyd traffyrdd, i fyny afonydd, trwy goedwigoedd, dros reilffyrdd ac ar hyd milltiroedd o fflatiau llaid rhynglanwol yn dilyn ochr yr Afon Hafren.

 

Wedi ei greu ar gyfer cerddwyr yn ogystal â theithwyr pen pentan, yn Edging the City mae Finch yn synfyfyrio ar pam a ble mae ffiniau yn bodoli, eu pwrpasau, eu hoffter o gyrsiau dwr a dinasoedd eraill gyda ffiniau cerddadwy gan gynnwys Efrog, Caer, Llundain, Paris, Bruges a Seoul.  Mae’n cynnig dargyfeiriadau testunol ar hanes ffiniau, coed gogledd Caerdydd, geiriau am dwmpathau, mynyddoedd Caerdydd, pyllau glo’r ddinas, ei thriawdau, enwogion hanesyddol, brwydrau, bryngaerau, beirdd, gwleidyddion, datblygiadau tai a ddifyrion eraill.

 

Bydd y sgwrs fywiog yma yn cynnwys lluniau o deithiau’r awdur, ac yn datgelu golygfa o Gaerdydd yn wahanol i unrhyw un a welwyd eisoes!

 

Bydd y digwyddiad yma yn cael ei gynnal mewn person yn Archifau Morgannwg fel rhan o ymgyrch Archwilio Eich Archif. Darparwyd lluniaeth.  Diolch yn fawr i Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth.

 

https://www.eventbrite.co.uk/e/peter-finch-edging-the-city-tickets-459966942507

Location

Loading Map....

Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd