2:00 pm-3:00 pm | 11/06/2025
Ymunwch a Trevor Godbold o Tiger Bay and the World i ddarganfod mwy am eu gwaith nhw i gadw eu harchif a’u casgliad hanes llafar sy’n adlewyrchu hanes Tiger Bay a Dociau Caerdydd.
Yn y blynyddoedd diweddar mae delweddau, hanesion llafar a deunyddiau archif eraill yn ymwneud a hanes cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Tiger Bay a Dociau Caerdydd wedi eu casglu gan sefydliadau a grwpiau amrywiol. Mae Tiger Bay and the World yn dod a’r deunydd yma ynghyd ac yn cynnig mynediad iddo drwy arddangosfeydd, sgyrsiau, rhaglenni addysg, ymweliadau ysgol a gweithgareddau eraill.
Elusen gymunedol yw Tiger Bay and the World sy’n anelu i gofnodi yn llawn treftadaeth ac amrywiaeth diwyllianol Tiger Bay a Dociau Caerdydd a’i draddodi i’r byd. Gallwch ddarganfod mwy am eu gwaith yn https://www.tigerbay.org.uk/.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
Location
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW