
2:00 pm-3:00 pm | 27/02/2026
Ymunwch a Roger Gilbert i ddarganfod mwy am George Sibbering. Ganwyd George ym Merthyr Tudful ym 1861. Symudodd i Gaerdydd ym 1889 a daeth yn Brif Beiriannydd Cwmni Rheilffordd Taff Vale ym 1894. Bu’n aelod o nifer o gymdeithasau a sefydliadau proffesiynol. Wedi iddo ymddeol ym 1927 aeth i fyw i Ynys Wyth. Bydd y sgwrs yn son am ei fywyd a’i diddordebau, gan gynnwys ei gysylltiad â Chwmni Rheilffordd y Barri a Thraphont Walnut Tree.
Roger Gilbert yw ysgrifennydd Cymdeithas Ffilatelig Caerdydd ac mae’n aelod o Gymdeithas Ffilatelig Frenhinol Llundain.
I gyd-fynd a’r sgwrs bydd arddangosfa o ddogfennau o gasgliad Archifau Morgannwg.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
Location
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW

