10:00 am-3:00 pm | 28/09/2024
Bydd Archifau Morgannwg yn agor ei drysau oll gyda CADW ar Ddydd Sadwrn 28 Medi 2024.
Dewch i ddarganfod beth mae adeilad archifau yn ei wneud, a sut mae’n gweithio!
Bydd cyfle i gwrdd ag aelodau o Gymdeithas Hanes Teulu Morgannwg bydd ar gael i ateb eich cwestiynau hanes teulu.
Ceir teithiau tu ol i’r llen am 10yb, 11.30yb, 12.30yh a 2yh. Cysylltwch a ni o flaen llaw i gadw’ch lle AM DDIM!
Bydd Cymdeithas Hanes Teulu Morgannwg yn cyflwyno dwy sgwrs fer AM DDIM – heb angen cadw lle o flaen llaw!
11yb – Getting Started with Family History
1.30yh – Using Newspapers for Family and Local History Research
Archiwliwch dogfennau sy’n cofnodi cannoedd o flynyddoedd o hanes Morgannwg. A dysgwch mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud yn ein stiwdio cadwraeth gyda dangosiadau gan y tim.
Bydd aelodau staff ar law i gynnig cyngor ar ddechrau a pharhau a’ch ymchwil – boed hynny’n ymwneud a hanes lleol, hanes eich ty, hanes teulu, prosiect ysgol neu brifysgol, neu unrhyw beth arall!
Mae’r digwyddiad yma AM DDIM ac mae yna groeso i chi alw mewn ar y diwrnod, ond mae angen cadw lle o flaen llaw ar gyfer ein teithiau tu ôl i’r llen.
Mwy am Archifau Morgannwg
Mae Archifau Morgannwg yn gwasanaethu awdurdodau lleol Caerdydd, Penybont-ar-Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Mae’n casglu, cadw ac yn ddarparu i’r cyhoedd dogfennau o’r ardal sy’n dyddio o’r 12fed ganrif hyd at y presennol. Mae gan Archifau Morgannwg dros 12km o ddogfennau yn ei ystafelloedd sicr a wnaed i’r pwrpas.
Ceir mwy o wybodaeth am Archifau Morgannwg yma: www.archifaumorgannwg.gov.uk
Mwy am Gymdeithas Hanes Teulu Morgannwg
Mae Cymdeithas Hanes Teulu Morgannwg yn ganolbwynt ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn Hanes Teulu ac Achyddiaeth, nid yn unig rheini sydd â gwreiddiau o fewn Morgannwg. Mae aelodau yn rhannu profiadau, yn datrys problemau ac yn cyfnewid gwybodaeth. Mae’r Gymdeithas yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed yn 2024.
Darganfyddwch mwy am Gymdeithas Hanes Teulu Morgannwg yma: https://www.glamfhs.org.uk/.
Mwy am Ddrysau Agored
Mae Diwrnodau Drysau Agored yn dathlu pensaerniaeth a threftadaeth Cymru. Mae’r digwyddiad yn cynnig mynediad am ddim i amrywiaeth o adeiladau, safleoedd treftadaeth, a digwyddiadau o pob math pob mis Medi. Gwelwch http://cadw.wales.gov.uk/opendoors/?skip=1&lang=cy am fanylion.
Am wybodaeth pellach ar Drysau Agored yn Archifau Morgannwg cysylltwch a:
Rhian Diggins, Uwch Archifydd
Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg, Lecwydd, Caerdydd CF11 8AW
Ebost: glamro@cardiff.gov.uk Ffon: 029 2087 2299 www.archifaumorgannwg.gov.uk
Location
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW