Digwyddiadau’r Eisteddfod 2018

All Day | 07/08/2018 - 10/08/2018

Teithiau tu ol i’r Llen

Dewch am daith tu ôl i’r llen yn Archifau Morgannwg er mwyn darganfod mwy am ein gwaith i gasglu, cadw a sicrhau mynediad i hanes de ddwyrain Cymru.

Dydd Mawrth 7fed Awst, 2yh

Dydd Mercher 8fed Awst, 10.30yb

Dydd Iau 9fed Awst, 2yh

Dydd Gwener 10fed Awst, 10.30yb

Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael felly cysylltwch ag Archifau Morgannwg o flaen llaw er mwyn cadw lle

Lleoliad: Bydd y teithiau yn cychwyn o dderbynfa Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg, Lecwydd, Caerdydd CF11 8AW

Cost: AM DDIM

N.B. Bydd y teithiau yma yn cael eu harwain trwy gyfrwng y Gymraeg

 

Gwaed Morgannwg: Darganfod Hanes Maes Glo De Cymru

Bydd Rhian Diggins a Louise Clarke o Archifau Morgannwg yn sôn am brosiect Gwaed Morgannwg i gatalogio a chadw archif y Bwrdd Glo Cenedlaethol a’i chwmnïau glo rhagflaenol, ac yn adrodd rhai o’r hanesion a ddarganfyddwyd wrth ymgymryd â’r gwaith.

Dydd Gwener 10fed Awst, 5.30yh

Lleoliad: Cymdeithasau 1, Y Senedd, Bae Caerdydd, CF10 4PZ

Cost: AM DDIM

N.B. Bydd y sgwrs yma yn cael ei draddodi drwy’r Gymraeg; bydd cyfieithu ar y pryd ar gael.

Location

Loading Map....

Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg
Caerdydd
CF11 8AW

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd