Cyflwyniad i Adnoddau Addysgol yr Holocost CHIDC

Cyflwyniad i Adnoddau Addysgol yr Holocost CHIDC

3:30 pm - 4:30 pm | 25/01/2023

Rhaglen digwyddiadau Archifau Morgannwg.

 

Nod Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC) yw datgelu, cofnodi, cadw a rhannu hanes cymunedau Iddewig De Cymru.

 

Mae’r elusen wedi creu Adnoddau Holocost newydd ar gyfer athrawon a myfyrwyr yng Nghymru. Mae’r gweithgareddau dosbarth, adnoddau addysg a nodiadau athrawon newydd yma ar hanes yr Holocost yn Ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ac ar gael am ddim i’w lawrlwytho.

 

Mae’r adnoddau yn cynnwys tystiolaeth fideo gan blant a ddaeth i Gymru fel ffoaduriaid yn y 1930au i ddianc rhag erlidigaeth gan y Natsïaid. Maent yn adrodd straeon lleol ac yn dangos Iddewon fel rhan o hanes cyfunol a chyfrannol Cymru. Maent hefyd yn mynegi hunaniaeth a dyngarwch bywydau Iddewig a effeithiwyd gan, neu a gollwyd yn yr Holocost.

 

Bydd yr hyfforddiant yn cyflwyno athrawon ac archifyddion i Adnoddau Addysg yr Holocost yr elusen ac yn esbonio’r rhesymeg, ymchwil a’r sylwedd addysgiadol sy’n tanseilio’r deunyddiau newydd yma.

 

Nodwch bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Bydd gofyn i chi lawrlwytho app Teams i’ch dyfais o flaen llaw.

 

Bydd linc yn cael ei ddanfon atoch cyn y digwyddiad. Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.  Cefnogwyd y prosiect yma ar y cyd gan y Rhaglen Erasmus+.  Proseswyd data personol yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd JHASW/CHIDC a Hysbysiad Preifatrwydd Rhaglen Erasmus+ y Comisiwn Ewropeaidd.

 

https://www.eventbrite.co.uk/e/an-introduction-to-the-jhasw-holocaust-education-resources-tickets-505977170337

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd