2:00 pm-5:00 pm | 09/12/2015
Ymunwch a ni yn Archifau Morgannwg ar Ddydd Mercher 9fed Rhagfyr wrth i ni ymchwilio i hanes y pantomeim ym Morgannwg drwy posteri Theatr Frenhinol Caerdydd ac archif y diddanwr nodedig Stan Stennett sydd newydd ei gatalogio,
Roedd Stan Stennett yn diddanwr, actor a cherddor; ganwyd yn Rhiwceiliog, ger Heol-y-Cyw, Penybont-ar-Ogwr, ym 1925. Gweithiodd ar y llwyfan, radio, teledu ac ar ffilm, gyda nifer o actau theatr amryfath gorau Prydain. Serenodd ym mhantomeim yn flynyddol, yn ymddangos ar lwyfan Pafiliwn Porthcawl, y Theatr Newydd yng Nghaerdydd ac ar daith. Mae ei archif yn cynnwys llyfrau lloffion, ffotograffau, sgriptiau, rhaglenni theatr, posteri a thorion papur newydd, yr oll yn olrhain ei yrfa hir ac amrywiol, ynghyd a’i gwisg pantomeim enwog!
Bydd mab Stan, Ceri Stennett, yn siarad am gysylltiad ei dad a phantomeim, yn enwedig mewn theatrau ar draws de Cymru; “Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i drafod gyrfa fy nhad mewn pantomeim. Roedd e’n hoff iawn o ddiddanu cynulleidfaoedd teuluol a phlant yn arbenning. Roeddw i’n digon ffodus i gymryd rhan mewn dros 40 o’r sioeau yma, y rhan fwyaf yn ne Cymru, a bydd hi’n hwyl edrych yn ol arnynt.”
Safodd y Theatr Brenhinol, Caerdydd ar gornel Stryd Wood a Stryd y Santes Fair. Yn hwyrach cafodd ei adnabod fel Theatr y Tywysog Cymru ac erbyn hyn y mae’n dafarn. Mae’r posteri theatr yn cynnig golwg hyfryd i’r pantomeimiau a pherfformiwyd yna rhwng 1885 ac 1895, gan gynnwys straeon cyfarwydd ‘Aladdin’, ‘Dic Whittington a’i Gath’ a ‘Babes in the Wood’, ynghyd a straeon sy’n llai cyfarwydd erbyn heddiw sef ‘Blue Beard’, ‘Yr Eneth Fach a’r Fantell Goch’ a ‘Sinbad’. Mae Archifau Morgannwg newydd orffen prosiect i gatalogio a chadw y casgliad unigryw yma.
Bydd eitemau o Archif Stan Stennett a phosteri o’r Theatr Frenhinol yn cael eu arddangos wedi’d digwyddiad.
Darperir lluniaeth ysgafn am ddim
Dyddiad: Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2015
Amser: 2.00yh
Lleoliad: Archifau Morgannwg
Mae’r digwyddiad yma AM DDIM ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael felly cysylltwch ag Archifau Morgannwg er mwyn cadw lle.
Mae Archifau Morgannwg yn gwasanaethu awdurdodau lleol Caerdydd, Penybont-ar-Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Mae’n casglu, cadw ac yn ddarparu i’r cyhoedd dogfennau o’r ardal sy’n dyddio o’r 12fed ganrif hyd at y presennol. Mae gan Archifau Morgannwg dros 12km o ddogfennau yn ei ystafelloedd sicr a wnaed i’r pwrpas ac a agorwyd yn Ionawr 2010.