Celf yn Adrodd Hanes y Rhyfel Byd Cyntaf

Celf yn Adrodd Hanes y Rhyfel Byd Cyntaf

10:00 am - 5:00 pm | 15/08/2016 - 09/09/2016

15 Awst – 9 Medi 2016 yn ystod oriau agor Archifau Morgannwg

Archwiliodd pobl ifanc yn Nhrelai a Chaerau i effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobl yng Nghaerdydd drwy ymchwilio gwaith celf a grëwyd yn ystod y cyfnod hwnnw. Defnyddiodd y bobl ifanc ffynonellau gwreiddiol i archwilio effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar drigolion gartref yng Nghaerdydd. Gwnaethant archwilio sut yr oedd artistiaid adeg y rhyfel yn defnyddio’u ffurfiau celfyddydol i gyfleu negeseuon allweddol. Cyflwynodd y bobl ifanc eu hymchwil i breswylwyr hŷn gan ofyn iddynt rannu storïau eu teulu hwy er mwyn archwilio effaith y rhyfel ar deuluoedd lleol. Gweithiodd y bobl ifanc wedyn gydag artistiaid i ddatblygu eu sgiliau a chreu eu gwaith celf hwy eu hunain, yn cynrychioli’r dreftadaeth yr oeddent wedi ei darganfod.

 

Dewch i weld yr arddangosfa a grewyd gan y cyfranogwyr!

 

http://bit.ly/2bh9L98

Location

Loading Map....

Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd