6:00 pm-7:00 pm | 27/01/2022
Rhaglen digwyddiadau ar-lein Archifau Morgannwg
David Allen yw prif awdur yr hanes newydd ei gyhoeddi o Barc yr Arfau. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o hanesion chwaraeon, mae’r llyfr yn canolbwyntio ar ddatblygiad pensaernïol y maes a sut ddatblygodd fel lleoliad chwaraeon a chymdeithasol pwysig o fewn tref a dinas Caerdydd. Bydd y cyflwyniad yma yn canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar ac yn trafod nid yn unig beth ddigwyddodd ar y safle, ond be allai fod wedi digwydd os gwireddwyd cynlluniau amgen.
Nodwch bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Bydd gofyn i chi lawrlwytho app Teams i’ch dyfais o flaen llaw.
Bydd linc yn cael ei ddanfon atoch cyn y digwyddiad. Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
https://www.eventbrite.co.uk/e/cardiff-arms-park-the-early-years-by-david-allen-tickets-227038166267