10:30 am-11:30 am | 23/07/2025
Ymunwch a Stephen K Jones i ddarganfod mwy am stori Rheilffordd y Barri, a sut arweiniodd rhagoriaeth glo De Cymru at adeiladau’r system doc a rheilffordd integredig fwyaf yn y byd.
Mae Stephen K Jones yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Sifil, awdur a hanesydd, gyda diddordeb penodol yn hanes peirianneg. Efe yw awdur nifer o erthyglau a llyfrau, gan gynnwys y gyfres aml-gyfrol, ‘Brunel in South Wales’. Hefyd, efe yw awdur ‘Barry Railway: Coal’s Last Burst’, sydd wedi ei ail-gyhoeddi yn ddiweddar gan Amgueddfa Rhyfel y Barri gyda chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Addysg Sefydliad Peirianwyr De Cymru. Mae copïau ar gael i’w brynu yn Amgueddfa Rhyfel y Barri.
I gyd-fynd a’r sgwrs bydd arddangosfa o ddogfennau o gasgliad Archifau Morgannwg.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
Location
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW