6:00 pm-7:30 pm | 15/12/2020
Ymunwch a’r Athro Martin Johnes wrth iddo drafod ‘A History of Christmas in Modern Britain’.
Bydd y sgwrs yma yn ymchwilio i rai o’r ffyrdd y mae dathliadau’r Nadolig wedi newid – neu yn aml heb newid – dros y 200 mlynedd diwethaf. Mae’n dadlau fod y Nadolig yn rhan annatod o ddiwylliant Prydeinig a bod modd ei ddefnyddio i ymchwilio i syniadau ehangach o grefydd, dosbarth, rhyw a chenedligrwydd.
Mae Martin Johnes yn Athro yn yr Adran Hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Fel hanesydd Cymru fodern a diwylliant poblogaidd ym Mhrydain fodern, mae wedi cyhoeddi’n eang ar bynciau megis gwleidyddiaeth, chwaraeon, hil, hunaniaeth genedlaethol, cerddoriaeth bop, trychinebau a llywodraeth leol, gan gynnwys ‘Christmas and the British: A Modern History’ (2016).
Gallwch ddarllen ei blog yma: www.martinjohnes.com.
Nodwch bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Bydd gofyn i chi lawrlwytho app Teams i’ch dyfais o flaen llaw.
Bydd linc yn cael ei ddanfon atoch cyn y digwyddiad. Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
Cofrestrwch yma; https://www.eventbrite.co.uk/e/a-history-of-christmas-in-modern-britain-by-professor-martin-johnes-tickets-130245087563