Mai 2024
Oddi Wrth May i’r Dyfodol
15/05/2024
4:00 pm - 6:30 pm
Archifau Morgannwg, Leckwith, Cardiff.
Arddangosfa oriel newydd yn Archifau Morgannwg
Ymunwch a thîm Archifau Morgannwg, Caerdydd, am lansiad gwaith celf unigryw newydd – deg print cynfas o deuluoedd o Gaerdydd yn y presennol a’r gorffennol, pob un a’u drama sain fechan.
Bydd y lansiad sy’n addas i’r teulu oll yn cynnwys gwrandawiadau ar y cyd i’r dramâu ysbrydolwyd gan y lluniau, ynghyd a sgyrsiau gan yr artistiaid, haneswyr a’r archifyddion tu ôl i’r prosiect.
Mae Oddi Wrth May i’r Dyfodol yn cyfuno dau hanner o brosiect ymgysylltiad cymunedol diweddar. Yn ‘From May to Etta, with Love’, creodd dau awdur lleol, Danielle Fahiya a Kyle Lima, chwe drama sain pum munud wedi eu hysbrydoli gan bortreadau anhysbys o gasgliad ffotograffau o 1910 sydd ar gadw yn Archifau Morgannwg.
Yn ‘Oddi Wrthym Ni i’r Dyfodol’, cafodd y teuluoedd cyfoesol o Gaerdydd a leisiodd y dramâu hanesyddol sesiynau tynnu llun eu hun, a recordiwyd eu lleisiau i’r dyfodol. Yn y cyfamser, bydd eu lluniau yn ymuno a’r rhai o’u cyfatebwyr hanesyddol ar furiau Archifau Morgannwg, rhan o waith celf unigryw yn dathlu amrywiaeth Caerdydd y gorffennol a’r presennol.
Mae ‘From May to Etta, with Love’ ac ‘Oddi Wrthym Ni i’r Dyfodol’ yn brosiectau Applied Stories ar gyfer Archifau Morgannwg a’r Archifau Cenedlaethol.
Mae’r tocynnau i’r lansiad ar Ddydd Mercher 15 Mai am ddim ond mae angen cadw lle o flaen llaw: https://www.eventbrite.co.uk/e/from-may-to-the-future-a-new-portrait-exhibition-at-glamorgan-archives-tickets-872427422907?aff=oddtdtcreator
ADFER AC ATGYWEIRIO - Cefnogi Hanesion Teulu Iddewig o’r Holocost ym Mhrydain
16/05/2024 - 17/05/2024
All Day
Archifau Morgannwg, Leckwith, Cardiff.
Mae Llyfrgell Holocost Wiener yn gartref i archif ddigidol Gwasanaeth Olrhain Rhyngwladol y DU, sy’n cynnwys miliynau o ddogfennau yn ymwneud a’r Holocost a chyfnod i Natsïaid. Mae’r archif yn cadw’r gorffennol a rennir gan ddioddefwyr a goroeswyr yr Holocost ac yn helpu i gefnogi ymchwil teuluol i erledigaeth Natsïaidd.
Mae ein rhaglen digwyddiadau am ddim yn cynnwys cyfle i weld ein harddangosfa, Fate Unknown: The Search for the Missing after the Holocaust, ynghyd a chyfle i ddysgu mwy am yr archif.
Croesawn haneswyr, archifyddion, haneswyr teulu, ymarferwyr Treftadaeth, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes Iddewig a hanes yr Holocost.
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg, Lecwydd, Caerdydd CF11 8AW
16 & 17 Mai 2024
16 Mai 2024: Fate Unknown: The Search for the Missing after the Holocaust
5.00yh – 8.00yh: Sgwrs Curaduron yr Arddangosfa a Derbyniad Diodydd
Ymunwch a cyd-guraduron yr arddangosfa Fate Unknown, Yr Athro Dan Stone a Dr Christine Schmidt, wrth iddynt ymchwilio i’r stori ryfeddol ond anadnabyddus am y chwilio am y colledig wedi’r Holocost. Mae Fate Unknown yn tynnu ar gasgliadau dogfennau teuluol Llyfrgell Holocost Wiener ac archif y Gwasanaeth Olrhain Rhyngwladol i bortreadu etifeddiaeth y chwilio sy’n parhau ar gyfer dioddefwyr colledig.
Yn ymuno a nhw bydd Dr Tetyana Pavlush, Darlithydd mewn Hanes Ewropeaidd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd, gan drafod datblygiad yr arddangosfa a myfyrio ar rhai o’r themâu mae’n ei godi.
Dilynwyd y Sgwrs Curaduron gan dderbynfa diodydd, gan gynnig cyfle i weld arddangosfa deithiol Fate Unknown a chwrdd â cyd-guraduron yr arddangosfa. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sylwadau gan y gwestai arbennig Emily Smith a Neil Richardson o’r Ganolfan Treftadaeth Iddewig Gymreig.
17 Mai 2024: Gweithdy Ymchwil Hanes Teulu
10.30yb – 1.30yh: Gweithdy Ymchwil
Bydd y gweithdy yma yn eich helpu i gymryd y camau cyntaf i’ch ymchwil teuluol eich hun gan ddefnyddio archif digidol y Gwasanaeth Olrhain Rhyngwladol, ynghyd a ffynonellau sydd ar gael am ddim ar-lein. Yn ogystal bydd y gweithdy yn cynnwys cefnogaeth ymchwil hanes teulu gan sefydliadau partner eraill.
Bydd cyfle i’r sawl sy’n cymryd rhan i gadw lle ar ymgynghoriad un-i-un gydag ymchwilwyr arbenigol Llyfrgell Holocost Wiener. Dewch a’ch cwestiynau ymchwil!
Mae’r digwyddiadau yma am ddim ond dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael. Ewch i https://wienerholocaustlibrary.org/events/ i gofrestri