ADFER AC ATGYWEIRIO – Cefnogi Hanesion Teulu Iddewig o’r Holocost ym Mhrydain

ADFER AC ATGYWEIRIO - Cefnogi Hanesion Teulu Iddewig o’r Holocost ym Mhrydain

All Day | 16/05/2024 - 17/05/2024

Mae Llyfrgell Holocost Wiener yn gartref i archif ddigidol Gwasanaeth Olrhain Rhyngwladol y DU, sy’n cynnwys miliynau o ddogfennau yn ymwneud a’r Holocost a chyfnod i Natsïaid.  Mae’r archif yn cadw’r gorffennol a rennir gan ddioddefwyr a goroeswyr yr Holocost ac yn helpu i gefnogi ymchwil teuluol i erledigaeth Natsïaidd.

Mae ein rhaglen digwyddiadau am ddim yn cynnwys cyfle i weld ein harddangosfa, Fate Unknown: The Search for the Missing after the Holocaust, ynghyd a chyfle i ddysgu mwy am yr archif.

Croesawn haneswyr, archifyddion, haneswyr teulu, ymarferwyr Treftadaeth, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes Iddewig a hanes yr Holocost.

Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg, Lecwydd, Caerdydd CF11 8AW
16 & 17 Mai 2024

16 Mai 2024: Fate Unknown: The Search for the Missing after the Holocaust

5.00yh – 8.00yh: Sgwrs Curaduron yr Arddangosfa a Derbyniad Diodydd

Ymunwch a cyd-guraduron yr arddangosfa Fate Unknown, Yr Athro Dan Stone a Dr Christine Schmidt, wrth iddynt ymchwilio i’r stori ryfeddol ond anadnabyddus am y chwilio am y colledig wedi’r Holocost. Mae Fate Unknown yn tynnu ar gasgliadau dogfennau teuluol Llyfrgell Holocost Wiener ac archif y Gwasanaeth Olrhain Rhyngwladol i bortreadu etifeddiaeth y chwilio sy’n parhau ar gyfer dioddefwyr colledig.

Yn ymuno a nhw bydd Dr Tetyana Pavlush, Darlithydd mewn Hanes Ewropeaidd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd, gan drafod datblygiad yr arddangosfa a myfyrio ar rhai o’r themâu mae’n ei godi.

Dilynwyd y Sgwrs Curaduron gan dderbynfa diodydd, gan gynnig cyfle i weld arddangosfa deithiol Fate Unknown a chwrdd â cyd-guraduron yr arddangosfa.  Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sylwadau gan y gwestai arbennig Emily Smith a Neil Richardson o’r Ganolfan Treftadaeth Iddewig Gymreig.

17 Mai 2024:  Gweithdy Ymchwil Hanes Teulu

10.30yb – 1.30yh: Gweithdy Ymchwil

Bydd y gweithdy yma yn eich helpu i gymryd y camau cyntaf i’ch ymchwil teuluol eich hun gan ddefnyddio archif digidol y Gwasanaeth Olrhain Rhyngwladol, ynghyd a ffynonellau sydd ar gael am ddim ar-lein. Yn ogystal bydd y gweithdy yn cynnwys cefnogaeth ymchwil hanes teulu gan sefydliadau partner eraill.

Bydd cyfle i’r sawl sy’n cymryd rhan i gadw lle ar ymgynghoriad un-i-un gydag ymchwilwyr arbenigol Llyfrgell Holocost Wiener. Dewch a’ch cwestiynau ymchwil!

Mae’r digwyddiadau yma am ddim ond dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael.  Ewch i https://wienerholocaustlibrary.org/events/ i gofrestri

Location

Loading Map....

Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd