Canllawiau Ymchwil
Mae Archifau Morgannwg wedi cynhyrchu nifer o ganllawiau ymchwil ar bynciau a chyfresi cofnodion poblogaidd i helpu i chi gychwyn ar eich gwaith ymchwil.
Chwilio’r Catalog
Mae ein catalog, Canfod, yn cynnwys disgrifiadau o dros 180,000 o eitemau yn ein casgliad ac mae’n cael ei ddiweddaru’n gyson gyda disgrifiadau o gofnodion newydd a dderbynnir a chatalogau newydd a grëir
Sut i ddod o hyd i ni
Gwybodaeth ar sut i ddod o hyd i ni ar droed, yn y car, ar y bws ac ar y tren
Mae Archifau Morgannwg yn gwasanaethu Cynghorau Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg Caerffili, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhodda Cynon Taf, a Dinas a Sir Caerdydd.
Digwyddiadau
Mae Archifau Morgannwg yn trefnu nifer o ddigwyddiadau AM DDIM ac mae croeso i unrhyw un fynychu. Seiliwyd ein digwyddiadau ar themâu sydd â chysylltiad â’n casgliadau ac sy’n ymwneud a’r gymuned rydym yn ei gwasanaethu.
Cadwch lygad ar ein tudalen digwyddiadau i ddarganfod beth sydd ar y gweill!
Digwyddiad

‘O’r Cysgodion’ Darganfod Hanes a Threftadaeth Menywod ym Morgannwg
16/05/20259:30 am-4:30 pm
Archifau Morgannwg, Leckwith, Cardiff.
Ymunwch ag Archif Menywod Cymru ac Archifau Morgannwg am ddiwrnod llawn o sgyrsiau a chyflwyniadau yn dathlu hanes menywod ym Morgannwg.
I gadw eich lle AM DDIM e-bostiwch info@archifmenywodcymru.org

Partnering with Glamorgan Archives to Preserve the Stories of Tiger Bay and Cardiff Docklands - Trevor Godbold, Tiger Bay and the World
11/06/20252:00 pm-3:00 pm
Archifau Morgannwg, Leckwith, Cardiff.
Ymunwch a Trevor Godbold o Tiger Bay and the World i ddarganfod mwy am eu gwaith nhw i gadw eu harchif a’u casgliad hanes llafar sy’n adlewyrchu hanes Tiger Bay a Dociau Caerdydd.
Yn y blynyddoedd diweddar mae delweddau, hanesion llafar a deunyddiau archif eraill yn ymwneud a hanes cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Tiger Bay a Dociau Caerdydd wedi eu casglu gan sefydliadau a grwpiau amrywiol. Mae Tiger Bay and the World yn dod a’r deunydd yma ynghyd ac yn cynnig mynediad iddo drwy arddangosfeydd, sgyrsiau, rhaglenni addysg, ymweliadau ysgol a gweithgareddau eraill.
Elusen gymunedol yw Tiger Bay and the World sy’n anelu i gofnodi yn llawn treftadaeth ac amrywiaeth diwyllianol Tiger Bay a Dociau Caerdydd a’i draddodi i’r byd. Gallwch ddarganfod mwy am eu gwaith yn https://www.tigerbay.org.uk/.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
https://www.ticketsource.co.uk/glamorgan-archives/t-lnlyxrp
Arddangosfa
Cysylltu
Ebostiwch, ysgrifennwch neu ffoniwch os oes gennych unrhyw gwestiynau neu i brynu eitem o’n siop
Mae Archifau Morgannwg yn anelu at ateb pob ymholiad a dderbyniwyd o bell o fewn 15 diwrnod gwaith.