Gweithdrefnau Archebu Archifau Morgannwg
Sut ydw i’n archebu lle?
Y ffordd orau o archebu yw drwy e-bost. Cysylltwch â ni yn glamro@caerdydd.gov.uk
Os na fyddwch yn defnyddio e-bost gallwch gysylltu â ni dros y ffôn ar 029 2087 2299.
Canllawiau archebu
Peidiwch ag archebu lle os ydych chi, neu unrhyw un yn eich cartref, yn dangos unrhyw symptomau Covid19:
- tymheredd
- peswch
- colli’ch synnwyr arogli neu flasu
Ein horiau agor yw Dydd Mawrth – Dydd Iau, 9.30yb – 12.30yp a 1.30yp -4.30yp.
Nodwch y byddwn yn cau am awr dros ginio.
Rhaid archebu lle o flaen llaw.
Wrth archebu lle, rhowch wybod os hoffech ymweld yn y bore, y prynhawn neu am ddiwrnod cyfan. Os rydych wedi ymweld â ni o’r blaen ac wedi cofrestri gydag Archifau Morgannwg, gofynnwn i chi roi i ni rhif eich cerdyn a/neu linell gyntaf eich cyfeiriad.
Mae pob archeb ar gyfer un person yn unig. Os bydd dau neu fwy o bobl yn dymuno ymweld gyda’i gilydd, bydd angen achebu sedd ar gyfer pob person.
Os oes angen defnyddio stand camera arnoch, archebwch hwn ymlaen llaw wrth gadw eich bwrdd a’ch dogfennau
Gallwch gysylltu â’n wi-fi cyhoeddus am ddim gan ddefnyddio eich dyfais eich hun
Ni allwn gynnig cyngor ac arweiniad hanes teuluol wyneb yn wyneb ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni drwy e-bost gyda’ch ymholiad a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
Wrth ymweld ag Archifau Morgannwg
Cofiwch ddod â phensil gyda chi pan fyddwch yn ymweld. Ni chaniateir beiros yn yr ystafell ymchwilio.
Os ydych chi’n dod â dyfais sydd angen gwefru, gwnewch yn siŵr ei bod wedi’i gwefru’n llawn. Ni allwn warantu mynediad at soced pŵer.
Os oes angen i chi dalu am wasanaethau reprograffig, mae’n well talu ar-lein. Gall y staff drefnu hyn yn ôl y gofyn.
Mae ein toiledau ar agor.
Canslo
Os oes angen i chi ganslo eich archeb, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn neilltuo eich lle i ymwelydd arall.
Hygyrchedd
Mae adeilad Archifau Morgannwg yn gwbl hygyrch.
Sut rydym yn sicrhau bod eich ymweliad mor ddiogel â phosibl
Mae holl ddodrefn ac offer yr ystafell chwilio yn cael eu glanhau’n rheolaidd.
Rydym yn gweithredu polisi dwylo glân llym yn Archifau Morgannwg. Bydd staff yn golchi / diheintio eu dwylo’n drylwyr cyn cynhyrchu unrhyw ddogfennau i’w defnyddio yn yr ystafell ymchwil.