Cyd Bwyllgor Archifau Morgannwg sy’n gweinyddu Archifau Morgannwg. Pwyllgor o gynghorwyr ac aelodau sydd wedi eu cyfethol yw hwn. Mae’n cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn. Cylch gwaith y pwyllgor yw datblygu a rhedeg gwasanaeth archif cyfunol i chwe awdurdod lleol, sef Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf Penderfynir ar y nifer o aelodau etholedig sy’n cynrychioli’r awdurdodau lleol unigol yn ôl eu poblogaethau.
Penderfynir ar y nifer o aelodau etholedig sy’n cynrychioli’r awdurdodau lleol unigol yn ôl eu poblogaethau.
Bro Morgannwg – 2 Aelod
Caerdydd – 5 Aelod
Caerffili – 2 Aelod
Merthyr Tudful – 1 Aelod
Pen-y-bont – 2 Aelod
Rhondda Cynon Taf – 4 Aelod
Gall hyd at 6 pherson â diddordeb mewn archifau a chofnodion gael eu cyfethol gan y Pwyllgor am gyfnod o ddim mwy na 4 blynedd.
Yn y cyfarfodydd pwyllgor chwarterol mae Archifydd Morgannwg yn cyflwyno adroddiad sy’n amlinellu’r gwaith a wnaed gan y gwasanaeth ym mhob maes allweddol ar gyfer y tri mis blaenorol. Gallwch gael gafael ar papurau’r cyfarfodydd ar wefan Cyngor Caerdydd.

