Croeso i Archifau Morgannwg
Rydyn ni’n casglu cofnodion sy’n ymwneud â hanes Morgannwg a’i phobl. Gall y cofnodion hyn amrywio o:
- papur,
- cynlluniau,
- ffotograffau,
- memrwn,
- dyddiaduron personol, a
- chofnodion cynghorau.
Mae rhagor o fanylion yn ein polisi casglu.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn dod o hyd i gofnodion sydd ar fin cael eu dinistrio neu’n sy’n dirywio, er mwyn eu cadw i genedlaethau’r dyfodol.
Rydyn ni’n catalogio cofnodion er mwyn i bobl ddod o hyd i ddeunydd a allai fod o ddiddordeb iddynt.
I gael rhagor o wybodaeth ar ein gwaith catalogio ewch i ‘chwilio’r catalog
Rydyn ni’n cadw a gwarchod cofnodion, ac yn sicrhau bod eitemau sy’n cael eu rhoi, eu adneuo neu eu trosglwyddo i’r Archifau yn cael eu cadw yn yr amgylchedd gorau bosibl ac wedi eu pecynnu’n addas.
I gael rhagor o fanylion ewch i’n gwasanaethau gwarchod.
Gall y cyhoedd ddod o hyd i gofnodion yn ein hystafell chwilio. Gwelwch ein oriau agor a manylion am ein gwasanaeth
Gallwn eich cynghori ar ddefnyddio cofnodion, er mwyn i chi fanteisio’n llawn ar eich amser yma. Cael cyngor neu holi cwestiwn.
Rydyn ni’n estyn croeso i grwpiau fel:
Mae gwybodaeth am drefnu ymweliadau o’r fath ar ein dalennau ymweliadau grŵp ac addysg.
© Archifau Morgannwg 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd
Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd