Ymestynnodd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 y bleidlais mewn etholiadau seneddol i rai menywod. Byddai menywod yn aros am ddeng mlynedd arall am yr hawl i bleidleisio’n gyfartal â dynion, ond roedd y Ddeddf hon yn gam gyntaf sylweddol. Chwiliodd ein gwirfoddolwyr ein cofnodion, gan dynnu deunydd sy’n perthyn i’r ymgyrch dros Bleidleisiau i Fenywod a rôl yr etholfreintwyr a’r swffragetiaid.