Mae’r cofrestrau olion bysedd a ffotograffau yn rhoi manylion am droseddau, dyddiad casglu’r olion bysedd a chanlyniad y treial a’r ffotograff (1904 – 1933) Mae’r gwirfoddolwyr wedi mynegeio pob un o’r saith cyfrol ac wedi digideiddio pob ffotograff. Ar hyn o bryd mae’r cronfeydd data hyn ar gael yn fewnol yn unig a gellir eu chwilio ar gais.