Project Mynegai Rhestr Criwiau – project partner

Er 2012, mae dau grŵp o wirfoddolwyr wedi gweithio’n frwdfrydig yn glanhau ac yna’n trawsgrifio manylion criwiau a geir yn y cytundebau criw ym Mhorthladd Caerdydd. Hyd yn hyn maent wedi cwblhau 1901 ac maent bron â gorffen 1911. Roedd Cymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg eisoes wedi darparu cronfa ddata sy’n cofnodi criwiau ar gyfer y blynyddoedd 1863, 1871, 1881 a 1891. Ar hyn o bryd mae’r cronfeydd data ond ar gael yn fewnol a gellir eu chwilio ar gais, fodd bynnag pan fydd golygu’n gyflawn, byddant ar gael i bawb eu gweld ar-lein.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Broject Mynegai’r Rhestr Criwiau yn: http://www.crewlist.org.uk/

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd