6:00 pm-7:30 pm | 19/07/2021
Rhaglen digwyddiadau ar-lein Archifau Morgannwg
Ymunwch a’r olrheiniwr achau Jenni Phillips wrth iddi edrych ymlaen at ryddhau cyfrifiad 1921 blwyddyn nesaf. Bydd y digwyddiad yma, a disgwylir yn frwd gan achyddion a haneswyr, yn cynnig ciplun o fywydau’n cyndeidiau yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf, yng nghyfnod o ansicrwydd economaidd ac aflonyddwch diwydiannol.
Wedi ystyried cyfrifiad 1921 o fewn y cyd-destun hanesyddol, bydd y sgwrs yma yn archwilio’r data sydd ar gael eisoes, gan ganolbwyntio’n arbennig ar Forgannwg, ac yn trafod beth allai gael ei adlewyrchu o fewn yr atodlenni aelwydydd.
Ystyriwyd hefyd y cwestiynau a ofynnwyd i’n cyndeidiau. Sut a pam newidiwyd y cwestiynau? Pa awgrymiadau all y cwestiynau newydd yma gynnig i ni? A sut gallwn gynllunio ein strategaeth ymchwil cyn y rhyddhau?
Mae Jenni Phillips wedi bod yn ymchwilio i hanes teulu ers tua 15 mlynedd. Mae’n aelod bwyllgor Cangen Caerdydd o Gymdeithas Hanes Teulu Morgannwg a Chymdeithas Hanes Lleol y Rhath, ac yn olygydd cyfnodolyn y P*rr*tt Society. Mae gan Jenni Tystysgrif Ôl-raddedig yn Astudiaethau Achyddol a Herodrol a Phalaeograffeg o Brifysgol Strathclyde, mae’n aelod-fyfyriwr o’r ‘Register of Qualified Genealogists’, ac mae wedi annerch cyfarfodydd cymdeithasau hanes teulu a lleol ynghyd a’r ‘THE Genealogy Show’.
Nodwch bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Bydd gofyn i chi lawrlwytho app Teams i’ch dyfais o flaen llaw.
Bydd linc yn cael ei ddanfon atoch cyn y digwyddiad. Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
https://www.eventbrite.co.uk/e/what-can-we-expect-from-the-1921-census-tickets-160196964433