Uchelgais Ddiwylliannol: Amrywio’r gweithlu treftadaeth trwy gydweithio, cyfleoedd a sgiliau

12:00 am | 01/10/2019

Hoffech chi fod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf i adrodd hanes Cymru?

Ydych chi wedi meddwl am yrfa yn gweithio mewn amgueddfeydd, cestyll, archifau neu leoliadau diwylliannol? Os felly, gallai’r Prosiect Uchelgais Ddiwylliannol fod yr union beth i chi…

Beth yw Uchelgais Ddiwylliannol?

Ariennir y Prosiect Uchelgais Ddiwylliannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn cael ei weinyddu a’i redeg gan Sgiliau Creadigol a Diwylliannol. Nod Uchelgais Ddiwylliannol yw cefnogi pobl ifanc i ennill profiad a sgiliau yn y sector treftadaeth ddiwylliannol trwy greu 33 o leoliadau hyfforddiant â thâl mewn amrywiol safleoedd ledled Cymru. Mae’r prosiect wedi’i gysylltu’n gryf â’r: Rhaglen Creu Cyfleoedd trwy Ddiwylliant a’r adroddiad Diwylliant a Thlodi gan Andrews.

Sut i gymryd rhan

Mae’r rhaglen hyfforddi hon yn gyfle cyffrous i unigolyn ifanc sy’n dymuno dysgu am weithio yn y sector treftadaeth ddiwylliannol. Bydd yr hyfforddeion yn treulio 12 mis mewn tri safle treftadaeth ddiwylliannol gwahanol a byddant yn cael bwrsariaeth o £800 y mis am bob mis o’r hyfforddeiaeth. Bydd y rhaglen yn cwmpasu amrywiaeth o sgiliau a fydd yn arwain at gymhwyster a gwell sgiliau cyflogadwyedd.

Fel rhan o’r hyfforddeiaeth hon, bydd yr hyfforddeion yn gweithio tuag at gymhwyster NVQ Lefel 2 mewn Treftadaeth Ddiwylliannol, a fydd yn cael ei gyflwyno yn y gwaith gyda chymorth Coleg Caerdydd a’r Fro.

I wneud cais, bydd angen i chi fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Yn 18-24 oed
  • Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
  • Ddim yn meddu ar radd

Mae’r prosiect ar gael mewn saith rhanbarth ledled Cymru:

  • Caerdydd a Chaerffili
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Casnewydd a Thorfaen
  • Abertawe a Sir Gaerfyrddin
  • Wrecsam

Cyfeiriwch at y Proffiliau Hyfforddi am ddadansoddiad o’r safleoedd treftadaeth ddiwylliannol sy’n cymryd rhan ym mhob rhanbarth, yn ogystal â rhagor o wybodaeth ar sut i wneud cais.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio cyfranogwyr i ddechrau ym mis Hydref 2019.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd