Never stumped for ideas! Amgueddfa Criced Cymru CC4 a phandemig COVID-19

Never stumped for ideas! Amgueddfa Criced Cymru CC4 a phandemig COVID-19

2:00 pm - 3:00 pm | 21/05/2021

Ymunwch a’r tîm o CC4 Amgueddfa Criced Cymru i ddarganfod mwy am ei gwaith a sut addaswyd hyn yn ystod pandemig Covid 19, gan gynnwys cynhyrchu cyfres o podlediadau ddiddorol yn ymchwilio i elfennau o griced Cymreig ddoe a heddiw.

 

Agorwyd CC4 Amgueddfa Criced Cymru yn 2012.  Wedi ei leoli yn y Ganolfan Criced Genedlaethol yng Ngerddi Sophia, ei nod yw dathlu hanes balch a threftadaeth gyfoethog criced yng Nghymru.

 

Nodwch bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Bydd gofyn i chi lawrlwytho app Teams i’ch dyfais o flaen llaw.

 

Bydd linc yn cael ei ddanfon atoch cyn y digwyddiad. Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

 

https://www.eventbrite.co.uk/e/never-stumped-for-ideas-cc4-museum-of-welsh-cricket-the-covid19-pandemic-tickets-154689517511

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd