2:30 pm-3:30 pm | 08/06/2016
Ymunwch a ni yn Archifau Morgannwg ar Ddydd Mercher 8fed Mehefin pan fydd Elizabeth Belcham yn trafod ei llyfr diweddaraf, ‘Swansea’s ‘Bad Girls’: Crime and Prostitution,1870-1914’.
Mae’r llyfr yn cyflwyno braslun o straeon ochr isaf bywyd Abertawe mae hanes yn tueddu anwybyddu. Roedd porthladd Abertawe yn cynnig lloches i longau a’u chriwiau, ac roedd yna dafarn ar bron bob cornel yn y Strand ac ar High Street. Dyma le bu’r puteiniaid yn canlyn eu crefft. Os fethon nhw berswadio diod gan y morwyr yn aml daeth y merched o hud i ffyrdd eraill o feddu ar eu cyflog, ac mae yna nifer o adroddiadau ar ladradau o forwyr. I lawer o’r merched yma, puteindra oedd eu unig gyfle i ennill bywoliaeth, ond daeth sawl pherygl gyda’r ffordd yma o fyw – dibyniaeth ar ddiod feddwol, trais, dod yn ddigartref a chlefyd.
Drwy dynnu ar luniau ac adroddiadau papur newydd o’r cyfnod mae’r llyfr yma yn ymchwilio i droseddau lladrata a thrais, yn aml trwy ddiod neu achosion cymdeithasol eraill, a lenwodd y llysoedd barn a’r carchardai, ac yn adrodd hanes bywydau’r merched eithriadol yma a lwyddodd i oroesi drwy adfyd.
Dyddiad: Dydd Mercher 8 Mehefin 2016
Amser: 2.30yp
Lleoliad: Archifau Morgannwg
Mae’r digwyddiad yma AM DDIM ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael felly cysylltwch ag Archifau Morgannwg er mwyn cadw lle.
Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg, Lecwydd, Caerdydd, CF11 8AW
Ffôn: 029 2087 2299 Ebost: glamro@cardiff.gov.uk www.archifaumorgannwg.gov.uk
Location
Glamorgan Archives
Clos Parc Morgannwg
Cardiff
CF11 8AW