Lleisiau a Delweddau’r Gymuned Iddewig De Cymru.

Lleisiau a Delweddau'r Gymuned Iddewig De Cymru.

All Day | 01/07/2019 - 05/07/2019

“Cafodd y gymuned Iddewig cyntaf yng Nghymru ei sefydlu yn Abertawe yn 1768, ac adeiladwyd y synagog cyntaf i’r pwrpas yna yn 1818. Cafodd cymunedau Iddewig eu sefydlu yn y prif ddinasoedd, ac yn nifer o drefi bychan y cymoedd oedd yn ffynnu o ganlyniad i’r chwildro diwydiannol. Daeth poblogaeth Iddewig Cymru i benllanw yn y 1920au a 30au, cyn dechrau ar ddirywiad araf ond cyson.

 

Yn ôl y Blwyddlyfr Iddewig, yn 1919 roedd 400 o Iddewon ym Merthyr; yn 1939, roedd 175, yn 1959, roedd 40; yn 1999, bu farw George Black, “Yr Iddew Olaf ym Merthyr”, yn 82 oed.

 

Ar y cyfan, cafodd y dirywiad yng nghymuned Iddewig Merthyr ei adleisio ledled de Cymru.

 

Nod arddangosfa CHIDC yw creu ddarlun o ysbryd y gymuned trwy ddetholiadau o gyfweliadau gyda’r bobol oedd yna; trwy’r straeon o’u bywydau, a bywydau eu rhieni a’u neiniau a theidiau. Pwy oedden nhw? Sut wnaethon nhw byw? Pam wnaethon nhw adael?

 

Mae’r arddangosfa hon yn dangos beth roedd hi’n feddwl i fod yn rhan o gymuned Iddewig yn ne Cymru, a sut wnaeth aelodau o’r cymunedau yma cyd-ymweithio a’u ffrindiau a’u chymdogion.”

Location

Loading Map....

Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd