Islam in the Landscape of Cardiff gan Dr Abdul-Azim Ahmed.

Islam in the Landscape of Cardiff gan Dr Abdul-Azim Ahmed.

2:00 pm - 3:00 pm | 23/09/2021

Rhaglen digwyddiadau ar-lein Archifau Morgannwg

 

Ymunwch a Dr Abdul-Azim Ahmed o Brifysgol Caerdydd wrth iddo ystyried mosgiau a sefydliadau Mwslim Caerdydd, a beth maent yn dweud wrthym am Islam, hanes y ddinas, a stori Cymru.

 

Mae Dr Abdul-Azim Ahmed yn Gydymaith Ymchwil yn Astudiaethau Mwslimaidd Prydeinig yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, ac yn Ddirprwy Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU.  Mae ganddo BA yn Astudiaethau Crefyddol, MA yn Islam ym Mhrydain Cyfoes, a gyflawnodd ei doethuriaeth, astudiaeth ethnograffig o’r mosg Prydeinig, yn 2016.

 

Ers hynny, mae wedi parhau gyda’i ymchwil ac mae ganddo ddiddordeb hirdymor yn hanes ac anheddiad Fwslemiaid yng Nghymru.  Mae wedi ymwneud a pholisi, ymchwil a rheoli prosiectau yn y trydydd sector, mae ganddo frwd dros gyfathrebu cyhoeddus “crefydd”, ac mae’n sefydlydd a golygydd On Religion, cylchgrawn sy’n ymchwilio i ffydd a chymdeithas.  Ar hyn o bryd mae Dr Ahmed yn gweithio ar gyfrol sy’n ymchwilio i stori’r bron i 2000 o fosgiau ym Mhrydain.

 

Nodwch bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Bydd gofyn i chi lawrlwytho app Teams i’ch dyfais o flaen llaw.

 

Bydd linc yn cael ei ddanfon atoch cyn y digwyddiad. Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

 

https://www.eventbrite.co.uk/e/islam-in-the-landscape-of-cardiff-by-dr-abdul-azim-ahmed-tickets-167590719353

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd