6:30 pm-7:30 pm | 23/01/2024
Yn sgil erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf ysbrydolwyd cenhedlaeth yn erbyn gwrthdaro, trefnodd merched Cymru ymgyrch nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen. Roedd ymgyrch Deiseb Heddwch Merched 1923 ymdrech wir ryfeddol ledled Cymru oedd yn ymron yn cynnwys pob cartref. Llofnododd 390,296 o ferched ddeiseb yn galw ar America i ymuno, ag i arwain y Cynghrair y Cenhedloedd newydd.
Bydd Lowri a Jennifer o’r prosiect yn trafod hanes y ddeiseb a’r gwaith wrth droed i sicrhau mynediad i bawb i’w cynnwys.
Ymunwch a ni i ddarganfod mwy am y Ddeiseb Heddwch – a sut gallwch chi gymryd rhan drwy wirfoddoli i drawsgrifio enwau’r menywod o Gymru a’i llofnododd.
Nodwch bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Bydd gofyn i chi lawrlwytho app Teams i’ch dyfais o flaen llaw.
Bydd linc yn cael ei ddanfon atoch cyn y digwyddiad. Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.