“I hope you will do what is Just and right to a poor and infirmily poor man”: The Voices of the South Wales Poor, 1834 to 1871

“I hope you will do what is Just and right to a poor and infirmily poor man”: The Voices of the South Wales Poor, 1834 to 1871

2:00 pm | 05/11/2026

Ymunwch a Dr Paul Carter o’r Archifau Genedlaethol i ddarganfod mwy am y prosiect newydd, Canrif o Frwydro: Tlodi a’r Ddeddf Dlodi Newydd yng Nghymru, 1834-1930.

Bydd y sgwrs yma yn canolbwyntio ar brofiadau byw’r tlawd yng Nghymru yn y 19eg ganrif gyda phwyslais ar siroedd y de. Gyda chyflwyniad y Ddeddf Dlodi Newydd ym 1834 gofynnwn beth oedd ymateb y tlawd i’r toriadau i gymorth, i system tlodai Oes Fictoria, a’r syniad bod ataliaeth yn rhan annatod o lesiant. Byddwn yn edrych ar y Ddeddf Dlodi Newydd trwy’r amrywiaeth o leisiau sydd i’w ddarganfod o fewn y llythyrau ysgrifennwyd gan y tlawd a’r rhai oedd yn siarad o’u blaid. Nid oedd gan y tlawd ofn lleisio beth roeddent yn ei gweld yn deg ac yn gyfiawn ac roedd eu llythyrau yn ceisio (weithiau’n llwyddiannus) i alw i gyfrif yr awdurdodau deddf dlodi leol.

Paul Carter yw’r Prif Arbenigwr Cofnodion (Prosiectau Cydweithredol) yn yr Archifau Morgannwg. Mae’n arwain, gyda Phrifysgolion Aberystwyth a Nottingham Trent, y prosiect, Canrif o Frwydro: Tlodi a’r Ddeddf Dlodi Newydd yng Nghymru, 1834-1930, cefnogwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.

Cadwch le AM DDIM yma https://www.ticketsource.com/glamorgan-archives/t-xdzddjq

Location

Loading Map....

Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW

© Archifau Morgannwg 2026 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi PreifatrwyddDatganiad hygyrchedd