2:00 pm-3:00 pm | 26/03/2025
Ymunwch a Ted Richards o Gyfeillion Mynwent Cathays i ddarganfod mwy am hanes diddorol y Fynwent. Mynwent Cathays yw’r fynwent ddinesig trydydd mwyaf ym Mhrydain. Agorwyd y Fynwent ym 1859 ac fe’i dyfarnwyd erbyn hyn yn Safle o Bwysigrwydd ar gyfer Gwarchodaeth Natur.
Ffurfiwyd Cyfeillion Mynwent Cathays yn 2006 i warchod etifeddiaeth hanesyddol y Fynwent ac i gynnal a chadw’r tiroedd ar gyfer ymwelwyr.
I gyd-fynd a’r sgwrs bydd arddangosfa o ddogfennau o gasgliad Archifau Morgannwg sy’n ymwneud a Mynwent Cathays.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
Location
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW