Drysau Agored yn Archifau Morgannwg

Drysau Agored yn Archifau Morgannwg

10:00 am-2:00 pm | 23/09/2023

Bydd Archifau Morgannwg yn agor ei drysau oll gyda CADW ar Ddydd Sadwrn 23 Medi 2023.

 

Dewch i ddarganfod beth mae adeilad archifau yn ei wneud, a sut mae’n gweithio!

 

Ceir teithiau tu ol i’r llen am 10yb, 11yb, 12yh a 1yh.  Cysylltwch a ni o flaen llaw i gadw’ch lle AM DDIM!

 

Archiwliwch dogfennau sy’n cofnodi cannoedd o flynyddoedd o hanes Morgannwg.  A dysgwch mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud yn ein stiwdio cadwraeth gyda dangosiadau gan y tim.

 

Bydd aelodau staff ar law i gynnig cyngor ar ddechrau a pharhau a’ch ymchwil – boed hynny’n ymwneud a hanes lleol, hanes eich ty, hanes teulu, prosiect ysgol neu brifysgol, neu unrhyw beth arall!

 

Mwy am Archifau Morgannwg

 

Mae Archifau Morgannwg yn gwasanaethu awdurdodau lleol Caerdydd, Penybont-ar-Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.  Mae’n casglu, cadw ac yn ddarparu i’r cyhoedd dogfennau o’r ardal sy’n dyddio o’r 12fed ganrif hyd at y presennol.  Mae gan Archifau Morgannwg dros 12km o ddogfennau yn ei ystafelloedd sicr a wnaed i’r pwrpas.

 

Ceir mwy o wybodaeth am Archifau Morgannwg yma: www.archifaumorgannwg.gov.uk

 

Mwy am Ddrysau Agored

 

Mae Diwrnodau Drysau Agored yn dathlu pensaerniaeth a threftadaeth Cymru.  Mae’r digwyddiad yn cynnig mynediad am ddim i amrywiaeth o adeiladau, safleoedd treftadaeth, a digwyddiadau o pob math pob mis Medi.  Gwelwch http://cadw.wales.gov.uk/opendoors/?skip=1&lang=cy am fanylion.

 

 

Am wybodaeth pellach ar Drysau Agored yn Archifau Morgannwg cysylltwch a:

 

Rhian Diggins, Uwch Archifydd

Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg, Lecwydd, Caerdydd  CF11 8AW

Ebost: glamro@cardiff.gov.uk Ffon: 029 2087 2299 www.archifaumorgannwg.gov.uk

Location

Loading Map....

Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW

© Archifau Morgannwg 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd