Isod fe welwch ffotograffau anhysbys o unigolion, grwpiau teulu, a grwpiau, o gymuned dociau Caerdydd.
Tynnwyd y lluniau rhwng 1900-1920, llawer ohonynt gan Fred Petersen o Bute Street.
Gellir eu gweld yn ein catalog o dan gyfeirnod DXGC/29
Daw’r lluniau o stiwdio Fred Petersen, ffotograffydd portreadau cynnar oedd yn berchen ar fusnes yn 232 Bute Street, Caerdydd o 1910-1920. Mae lluniau hynod bersonol a diddorol Fred yn nodedig am bortreadu plant a theuluoedd Du ac o etifeddiaeth gymysg o gymuned hanesyddol amrywiaethol Dociau Caerdydd. Cyflwynwyd y casgliad i Archifau Morgannwg yn y 1970au heb lawer o gyd-destun. Er gwaethaf lawer apêl gyhoeddus dros y blynyddoedd, mae rhan fwyaf o’r bobol a bortreadwyd yn parhau yn anhysbys.
Yn 2023, comisiynwyd Applied Stories gan yr Archifau Cenedlaethol i ymweld â Chaerdydd er mwyn cwrdd ag arbenigwyr Archifau Morgannwg er mwyn gweld be ellir ei wneud i ddod ar ddelweddau yma’n fyw. Gweithiodd Applied Stories, cwmni sy’n arbenigo mewn creu drama sain, gyda dau awdur proffesiynol gyda chysylltiadau a Butetown, Danielle Fahiya a Kyle Lima, i sgriptio chwe golygfa ddychmygol o’r eiliad a dynnwyd y llun.
‘From May to Etta with Love’ yw’r canlyniad eithriadol. Mae pob drama yn mynd a’r gwrandawyr ar daith nol mewn amser i glustfeinio ar sgwrs rhwng Fred Petersen a thestun ei darluniau. Recordiwyd y sgriptiau can gast cymysg o actorion proffesiynol a phobol ifanc gyfoes o ardal Butetown, mewn partneriaeth a’r cwmni lleol Fio.
Isod fe welwch ffotograffau anhysbys o unigolion, grwpiau teulu, a grwpiau, o gymuned dociau Caerdydd.
Tynnwyd y lluniau rhwng 1900-1920, llawer ohonynt gan Fred Petersen o Bute Street.
Gellir eu gweld yn ein catalog o dan gyfeirnod DXGC/29
© Archifau Morgannwg 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd
Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd