2:30 pm-3:30 pm | 17/08/2016
Yn ei adroddiad blynyddol ym 1889, dyma sut y disgrifiodd Dr Pringle, Arolygydd Gwallgofdy Morgannwg, ei chleifion, ‘..suffering from a hopeless form of insanity’. Ond sut oedd bywyd go iawn i gleifion Gwallgofdy Morgannwg?
Ymunwch a’r hanesydd Dan Jewson wrth iddo drafod ei ymchwil i fywydau’r cleifion yng Ngwallgofdy Morgannwg. Yn tynnu ar y cofnodion meddygol, y llythyron gan gleifion, a’r lluniau o fewn casgliad Archifau Morgannwg, bydd Dan yn canolbwyntio ar ochr ddynol bywyd fel claf yn y gwallgofdy. Mae straeon gwefreiddiol, cyfareddol a doniol yn dangos nad yw ein barn draddodiadol ni o’r Gwallgofdy o reidrwydd yn gywir. Llwyddodd nifer o unigolion i siapio, rheoli a ddylanwadi ar eu bywydau a’u triniaeth nhw ac unigolion eraill o fewn y gwallgofdy.
Dyddiad: Dydd Mercher 17 Awst 2016
Amser: 2.30yh
Lleoliad: Archifau Morgannwg
Mae’r digwyddiad yma AM DDIM ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael felly cysylltwch ag Archifau Morgannwg er mwyn cadw lle.
Archifau Morgannwg,
Clos Parc Morgannwg,
Lecwydd,
Caerdydd,
CF11 8AW
Ffôn: 029 2087 2299
Ebost: glamro@cardiff.gov.uk
Location
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW